Trysorau Llyfrgelloedd Abertawe

Gall Gwasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe olrhain ei chasgliadau yn ôl i 1875. Agorwyd hen adeilad Llyfrgell Ganolog Abertawe ar Alexandra Road gan y Prif Weinidog, W. E. Gladstone, ym 1887. Roedd yn cynnwys cyfoeth o lyfrau a roddwyd iddi gan lyfrgelloedd dynion oes Fictoria, yn ogystal â llyfrau a roddwyd gan John Deffett Francis, artist, llyfrgarwr a Churadur Anrhydeddus y Llyfrgell gynnar. Mae'r rhoddion hyn yn ffurfio cnewllyn y casgliadau hanesyddol sydd ar gael yn Llyfrgelloedd Abertawe heddiw.

Yn y blog hwn rydym yn bwriadu rhannu rhai o lyfrau'r casgliadau hyn a newyddion arall gan y Gwasanaeth Llyfrgelloedd, gan ganolbwyntio'n arbennig ar ein gwasanaeth Astudiaethau Lleol. Gobeithiwn y byddwch yn eu mwynhau ac yn cadw llygad am ddigwyddiadau yn y dyfodol lle gallwch ymweld â ni a gweld y trysorau hyn drosoch eich hunain. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein casgliad arbennig o lyfrau, mapiau a llawer o eitemau eraill ar ein gwefan.