Straeon o’r Cromgelloedd : Lewis Weston’s Dillwyn’s 'Adam's laburnum'
Daeth llawer o bobl i'n digwyddiad ym mis Mawrth, a oedd yn dathlu un o'r trysorau mwyaf prin yn ein casgliadau a hanes Llyfrgelloedd Abertawe.
Cawsom amrywiaeth eang o ymwelwyr â'r Ystafell Ddarganfod ddydd Gwener a dydd Sadwrn 10-11 Mawrth, a daeth cyfanswm o oddeutu 150 o bobl. Mae amrywiaeth eang o lyfrau, mapiau a phapurau newydd hanesyddol i edrych arnynt o oes y Tuduriaid a'r oes Fictoraidd ymlaen. Un o'r uchafbwyntiau oedd gweld hen benddelw Gladstone, a oedd yn edrych dros ystafell ddarllen yr hen Lyfrgell Ganolog, ynghyd â chasgliad gwych o ffotograffau hanesyddol o'r llyfrgell.
Roedd yr albwm Hornor hanesyddol o baentiadau dyfrlliw o Dde Cymru, llawlyfr Ffrengig ar enedigaeth o 1685 a'r llyfr gramadeg Cymraeg cynharaf a ysgrifennwyd gan Gruffydd Robert ym 1567 yn enwedig o boblogaidd. Roedd llyfr Dylan Thomas a wnaed ym 1953 hefyd yn denu sylw, ac roedd yn cynnwys darluniau a dynnwyd â llaw gan yr artist Ceri Richards o Abertawe. Roedd ymwelwyr hefyd yn gallu gwylio rhai ffilmiau archif gan Sefydliad Ffilmiau Prydain, a ffilmiwyd rhai o'r rheini gan staff Llyfrgell Abertawe yn y 1960au. Rydym yn bwriadu disgrifio rhai o'r pethau a welwyd yn y blog hwn yn y dyfodol ac rydym yn bwriadu cynnal rhagor o ddigwyddiadau o'r math hwn yn y dyfodol.
Un peth prin a arddangoswyd oedd gwahanlith o erthygl ar nodwedd hynod yn y byd garddio, sef hybrid gyda dau fath o ddail a thri math o flodau, a blannwyd ym Mhlas Sgeti gan Lewis Weston Dillwyn ym 1833. Argraffwyd yr erthygl am y tro cyntaf yng nghylchgrawn Sefydliad Brenhinol De Cymru ym 1845. Mae'n debygol y gwnaed y darluniad hwn a welwch chi yma gan Dillwyn ei hun.
Lewis Weston Dillwyn FRS (1778-1855)
Ganed L.W. Dillwyn ym 1778, yn fab hynaf i William Dillwyn, crynwr o Bensylfania a ymgyrchodd yn erbyn caethwasiaeth ac a brynodd Grochendy Cambrian yn Abertawe ym 1802 ar ran ei fab.
Cyhoeddodd Dillwyn, a oedd yn fyfyriwr natur brwd, ddarnau o waith niferus ar fotaneg a chregynneg a chafodd ei ethol yn Gymrodor y Gymdeithas Frenhinol ym 1804. Aeth gyda Miss Talbot o Benrhys i Dwll-y-Gafr, Pen-y-fai (Pafiland), ar ôl i olion dynol gael eu darganfod yn yr ogof ym mis Rhagfyr 1822 ac ysgrifennodd at Athro Daeareg Rhydychen, William Buckland, i archwilio'r hyn a fyddai'n cael ei adnabod fel "Menyw Goch Pen-y-fai".
Penodwyd Dillwyn yn Uchel Siryf Morgannwg ym 1818, cynrychiolodd Morgannwg fel AS Chwig (Rhyddfrydwr) yn y senedd ddiwygiedig gyntaf o 1832 a daeth yn Faer Abertawe saith mlynedd yn ddiweddarach. Wedi byw yn Burrows Lodge, a arferai sefyll ger Amgueddfa Abertawe, prynodd Neuadd Sgeti ym 1831 am £3,800. Ym 1835, daeth yn un o sylfaenwyr a llywydd cyntaf Cymdeithas Lenyddol ac Athronyddol Abertawe, a ddaeth yn Sefydliad Brenhinol De Cymru, ac adeiladodd Amgueddfa Abertawe chwe blynedd yn ddiweddarach.
Account of a Lusus of the hybrid Cytisus Adami. (1845)
Roedd 'Tresi Aur Adda' (neu Cytisus adami) yn ddirgelwch dryslyd i fotanegwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg oherwydd ei darddiad fel cimera impiedig rhwng dwy rywogaeth, tresi aur, Laburnum anagyroides, a banhadlen, Chamaecytisus purpureus. Fe'i henwyd ar ôl ei greawdwr, Jean-Louis Adam, meithrinwr yn Vitry ger Paris. Mae'n bosib mai enghraifft Dillwyn a dyfwyd yn Segti oedd y cyntaf a dyfwyd ym Mhrydain. Roedd diddordeb mawr gan Charles Darwin ynddi, ac roedd yn enghraifft allweddol yn ei lyfr The Variation of Animals and Plants Under Domestication (1868) a ychwanegodd rhagor o fanylion at ei ddamcaniaethau am esblygiad. Tyfodd ei sbesimenau ei hun, a ddisgrifiwyd mewn llythyr at y botanegwr J D Hooker ym 1847.
Charles Darwin- "I am extremely glad I sent the Laburnum: the raceme grew in centre of tree, and had a most minute tuft of leaves, which presented no unusual appearance: there is now on one raceme a terminal bilateral [i.e., half yellow, half purple] flower, and on other raceme a single terminal pure yellow and one adjoining bilateral flower. If you would like them I will send them; otherwise I would keep them to see whether the bilateral flowers will seed, for Herbert says the yellow ones will... I have seen Dillwyn in the Gardeners' Chronicle, and was disgusted at it, for I thought my bilateral flowers would have been a novelty for you."
Plannwyd tresi aur Adam yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yng Ngardd Wallace er mwyn dangos ei bwysigrwydd yn hanes esblygiad.