Penddelw Crwys Williams a Jenkin Evans, cerflunydd Rhan 2

Crwys - Yr Eisteddfod Genedlaethol, Aberafan 1966

Crwys - Yr Eisteddfod Genedlaethol, Aberafan 1966

crwys close.jpg

Trafodom gefndir y bardd lleol enwog, William ‘Crwys’ Williams a'i gerddi penigamp yn rhan gyntaf y blog hwn. Arweiniodd ei waith at greu'r penddelw efydd y gallwch ei weld yn Llyfrgell Ganolog Abertawe heddiw.

Cerddi Crwys, yn cynnwys 'Gwerin Cymru' a chaniadau eraillLlanelli : James Davies, 1920

Cerddi Crwys, yn cynnwys 'Gwerin Cymru' a chaniadau eraill

Llanelli : James Davies, 1920

 Adlewyrchwyd llwyddiant Crwys yn yr argraffiadau niferus o'i farddoniaeth a gyhoeddwyd yn ystod ei oes, y mae gennym lawer ohonynt yn ein casgliadau. Mae'r dudalen deitl hon yn un enghraifft o'r llyfrau hyn.

Roedd ei lwyddiant llenyddol yn gysylltiedig â'i yrfa hir fel archdderwydd drwy gydol cyfnod anodd y rhyfel. Gellir gweld mor effeithiol yr oedd Crwys yn y rôl hon mewn un adeg nodedig pan urddodd frenhines y dyfodol, y Dywysoges Elizabeth, yn Ofydd Anrhydeddus Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Aberpennar ar 6 Awst 1946. Gallwch wylio a chlywed darn o ffilm newyddion Pathe o Crwys wrth ei waith yn yr Eisteddfod yn y fideo hwn:

Cerflunydd y penddelw efydd oedd Jenkin/Jenkyn “Tawe” Evans, L.D.S. (1897-1966) o Ystalyfera. Roedd yn ddeintydd a oedd yn cerflunio yn ei amser sbâr. Roedd yn frawd iau i'r artist Vincent Evans a anogodd gerflunio'i frawd. Dechreuodd Jenkin ei yrfa gerflunio o ddifri' ar ddiwedd y tridegau pan gafodd lwyddiant wrth arddangos penddelw "Glöwr o Gymru" yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn Abertawe, gallwch weld penddelw arall gan Jenkin Evan o David Rhys Grenfell, cyn AS Gŵyr, wedi'i arddangos yn Neuadd y Ddinas, ac mae dau benddelw arall ganddo yng nghasgliadau Oriel Gelf Glynn Vivian. Roedd Crwys yn adnabod Evans yn bersonol, a siaradodd yn werthfawrogol amdano ar raglen Heddiw ar BBC Cymru yn y 1950au.

 

Creodd Jenkin Evans benddelw Crwys yn hwyr yn y 40au, fwy na thebyg i goffáu diwedd ei gyfnod fel archdderwydd. Fe'i harddangoswyd yn Arddangosfa Haf enwog yr Academi Gelfyddydau Brenhinol yn Llundain ym  1948. Fe'i harddangoswyd hefyd yn arddangosfa flynyddol gyntaf Grŵp De Cymru 1949 a ymwelodd ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, Amgueddfa Casnewydd a Oriel Gelf Glynn Vivian a Merthyr Tudful.

 

crwys handover.JPG

Erthygl o'r South Wales Evening Post ©

Darn o'r catalog ar gyfer 180fed arddangosfa'r academi brenhinol, 1948.

Darn o'r catalog ar gyfer 180fed arddangosfa'r academi brenhinol, 1948.

Crwys+dis.jpg

Yn dilyn marwolaeth Jenkin Evans ym 1966, codwyd arian drwy danysgrifiad preifat i brynu'r penddelw gan ystad Evans ar ran Cyngor Abertawe. Cyflwynwyd y penddelw i Brif Lyfrgellydd Abertawe, Leslie Rees, ar 4 Ionawr 1968 mewn seremoni a gynhaliwyd wrth ymyl gwely Crwys yn Ysbyty Mount Pleasant ar ei ben-blwyddyn yn 93 oed, naw niwrnod yn unig cyn ei farwolaeth. Dadorchuddiwyd y penddelw yn Llyfrgell Ganolog Abertawe ar Alexandra Road gan yr Henadur T. R. Davies ar 1 Mawrth 1968. Arhosodd yno nes i'r llyfrgell symud i Ganolfan Ddinesig Abertawe yn 2008.

Mae geiriau Leslie Rees wrth iddo dderbyn y penddelw'n ddilys o hyd: "Rydym yn falch iawn o'i gael. Gwyddwn fod eich gwaith wedi'i ddiogelu yn llenyddiaeth ein gwlad. Pa le gwell y gellid dod o hyd iddo ar gyfer y penddelw na'r llyfrgell."

Erthygl o'r South Wales Evening Post ©

Erthygl o'r South Wales Evening Post ©

Previous
Previous

“Lloyd 'Kid' Davis, Swansea's Black Marvel”

Next
Next

Penddelw'r Parch. William “Crwys” Williams