Pen-blwydd hapus Llyfrgell Pen-lan yn hanner cant!
Mae 50 mlynedd wedi bod ers i Lyfrgell Pen-lan agor ar 7 Mai 1971. Cafodd ei hadeiladu wrth ochr Canolfan Gymunedol De Pen-lan ar Heol Frank. Agorwyd gan Gadeirydd Pwyllgor Llyfrgell Gyhoeddus Abertawe, T R Davies gyda Maer Abertawe. Mae wedi bod yn gwasanaethu pobl Pen-lan yn ffyddlon ers hynny gyda staff arbennig, llyfrau gwych a digwyddiadau cyffrous.
Atgofion o Lyfrgell Pen-lan oddi wrth y staff…
Dathlu Penlan yn 50 oed! — Llyfrgelloedd Abertawe (squarespace.com)
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr holl bethau gwych sydd ar gael yn Llyfrgell Pen-lan ar ein gwefan lle gallwch archebu llyfrau ymlaen llaw ar gyfer ein gwasanaeth Clicio a Chasglu:
https://www.abertawe.gov.uk/llyfrgellpenlan
Wyddech chi?
Dim ond datrysiad dros dro oedd bwriad y llyfrgell gyntaf ym Mhen-lan a lleolwyd mewn fflat llawr gwaelod wedi'i drawsnewid ar Heol Gwyrosydd. Agorwyd ar 20 Medi 1960.
Roedd Lyfrgell Pen-lan wedi elwa o waith adnewyddu gwerth £86,000 yn 2012 gyda silffoedd, carpedi, mannau eistedd wedi'u hail-lunio, toiledau a chyfleusterau newydd eraill. Gallwch ddarllen am hynny ar daflen o'r cyfnod.
Cyn creu stad tai cyngor Pen-lan ar ôl y rhyfel, tir ffermio oedd yr ardal hon. Roedd yn rhan o fferm Penlan Fawr ac roedd y ffermdy'n sefyll i'r dwyrain o'r llyfrgell yn agos at ble mae Idwal Place heddiw.
Roedd rheilffordd tramffordd ar gyfer cludo glo o Lofa Mynydd Newydd yn rhedeg ychydig i'r de o leoliad y llyfrgell a'r ganolfan gymunedol heddiw. Roedd yn ymuno â'r prif reilffordd yng nghyffordd Glandŵr.