‘Grimm’s Household Tales, with notes’.

Grimm’s Household Tales, with notes. Volume 1. (London: George Bell and Sons, York Street, Covent Garden, 1884)Wedi'i gyfieithu o'r Almaeneg gan Margaret Hunt. Mae'r testun yn seiliedig ar y seithfed argraffiad dwy gyfrol yn Almaeneg (1857): Cyflwyn…

Grimm’s Household Tales, with notes. Volume 1. (London: George Bell and Sons, York Street, Covent Garden, 1884) Wedi'i gyfieithu o'r Almaeneg gan Margaret Hunt. Mae'r testun yn seiliedig ar y seithfed argraffiad dwy gyfrol yn Almaeneg (1857): Cyflwyniad gan Andrew Lang

Mae'r straeon tylwyth teg a straeon gwerin a gofnodwyd gan y brodyr Grimm yn sail i nifer o'r straeon a'r ffilmiau modern sydd gennym heddiw ac sydd wedi dylanwadu ar waith awduron modern mewn sawl ffyrdd. Roedd Dylan Thomas, y bardd o Abertawe'n hoff iawn o'r straeon, ac roedd yn eu rhannu gyda'i blant ei hun. Mae'r straeon llawn hud a lledrith a dewiniaeth, a daw’r fersiwn hon o’r chwedlau i ben gydag adran nodiadau sy'n disgrifio gwreiddiau’r straeon a'u perthynas â chwedlau mewn rhanbarthau a gwledydd eraill. Mae hefyd ymwybyddiaeth o'r cysylltiadau rhwng caneuon gwerin a'r chwedlau hyn.

Gellir gweld portread o'r brodyr Grimm yn y Llyfrgell Brydeinig

Ychwanegwyd y gyfrol hon i gasgliad Llyfrgell Abertawe ar 20 Tachwedd 1888, ac yn ôl y stamp benthyca, edrychwyd ar y llyfr ar o leiaf 4 achlysur ym mis Mehefin 1889, mis Hydref 1889 a mis Awst 1890. Ychwanegwyd y llyfr at yr adran Cyfeirio Cyffredinol ac nid oedd modd mynd ag ef gartref. Cyfieithwyd y fersiwn hon o'r Almaeneg gan Margaret Hunt ac mae ganddi gyflwyniad gan Andrew Lang.  Ystyriwyd bod fersiwn Hunt yn gyfieithiad gwych a daeth yn fersiwn safonol am nifer o flynyddoedd.

Margaret Hubt.jpg

Roedd Margaret Hunt yn nofelydd ac ar adeg y cyhoeddiad hwn, bu'n ffrind i'r awdur Oscar Wilde.

Ysgrifennwyd straeon Grimm ar gyfer cynulleidfa wahanol ac roedd y brodyr yn ystyried eu hunain yn academyddion yn hytrach nag yn awduron i blant. Mae llawer o'r straeon wedi’u hail-ysgrifennu mewn cyhoeddiadau modern gyda synwyrusrwydd cynulleidfaoedd modern mewn golwg. Teitl y cyhoeddiad hwn yw "Household Tales" yn hytrach na "Fairytales". Fodd bynnag, mae'r straeon yn dysgu gwersi cras i rai o'r cymeriadau ac nid ydych bob amser yn cael diweddglo hapus.

Nid yw straeon Grimm erioed wedi bod allan o brint a gallwch fenthyca neu ddod o hyd i gopïau modern wedi'u hail-ysgrifennu o'ch llyfrgell leol.

‘Brothers Grimm fairy tales’, ISBN: 9781787552876.

Gallwch ddod o hyd i gopi o'r fersiwn hon ar y silffoedd yn Llyfrgell Gorseinon a'r Llyfrgell Ganolog. Gallwch chwilio yng Nghatalog Gwasanaeth Llyfrgell Abertawe yma.

Previous
Previous

‘Flowering Plants grasses, sedges and ferns of Great Britain’, gan Anne Pratt 1806 – 1893