‘The Naturalist’s Library’
Mae'r gyfrol hon yn rhan o gasgliad a ysgrifennwyd ar gyfer y cyhoedd a gwyddonwyr gwrywaidd Oes Victoria. Roedd hanes naturiol yn ddiddordeb poblogaidd ac roedd ymwybyddiaeth wyddonol o'r amgylchedd naturiol yn cynyddu. Dyma oedd oes diwydiant mawr ac roedd gwybodaeth am ddaearyddiaeth a daeareg hefyd yn cynyddu diddordeb pobl yn y gwyddorau naturiol.
Golygwyd y gyfres hon o lyfrau gan Syr William Jardine (1800-1874), naturiaethwr llwyddiannus o'r Alban. Roedd yn ddaearegwr, yn entomolegydd ac yn fotanegwr mawr ei barch, a oedd yn datblygu arbenigedd ym meysydd adareg a physgodeg (astudio pysgod). Roedd Jardine yn gallu sefydlu cysylltiadau ag amrywiaeth eang o bobl frwd eraill ar draws y byd, gan gynnwys y naturiaethwr enwog o Abertawe, Lewis Llewelyn Dillwyn.
Cyfraniad mwyaf Jardine oedd y ffordd y dewisodd rannu'r wybodaeth yr oedd yn ei chasglu. Cyhoeddodd "The Naturalist's Library" rhwng 1833 a 1843. Roedd hyn yn cynnwys 40 o gyfrolau bychain, 5 modfedd wrth 4 modfedd, â rhwymiad lledr. Rhannwyd y gyfres yn bedwar categori ffylwm: adareg, mamaliaid, entomoleg a physgodeg, ac roedd pob cyfrol yn cynnwys disgrifiad o bob rhywogaeth hysbys a darluniau a liwiwyd â llaw.
Comisiynodd Jardine naturiaethwyr ac artistiaid gorau'r cyfnod i lunio’r disgrifiadau a’r darluniau, a’r canlyniad oedd gwyddoniadur cynhwysfawr o natur a oedd yn casglu cymaint o wybodaeth â phosib am y byd naturiol mewn fformat y gellir ei ddarllen yn hawdd. Cafwyd llawer o argraffiadau.
Nid oes gan Lyfrgelloedd Abertawe'r holl gyfrolau heddiw, ond mae'r darluniadau yn y gyfrol hon yn llachar ac yn lliwgar o hyd, ac yn dangos pob manylyn.
Mae tudalen 160 yn cynnwys pennod am benwaig, lle mae'r awduron yn disgrifio'r theori bod yn rhaid i benwaig, sy'n anodd eu darganfod ar hyd arfordir y DU yn y gaeaf, ymfudo i'r Arctig, a dychwelyd yn eu niferoedd yn ystod yr haf.
Dyma'r theori a ddisgrifir gan y naturiaethwr o Gymru, Thomas Pennant, yn ei lyfr British Zoology (1766). Mae ymchwil fodern ar benwaig yn cadarnhau pwysigrwydd ymfudo'n bell yn ystod eu cylch bywyd. Roedd y pysgodfeydd penwaig yn hanesyddol bwysig yng Nghymru a gwelwyd cychod pysgota penwaig tymhorol yn aml o gwmpas Abertawe a Gŵyr, ac roedd casgenni o benwaig hallt yn eitem fasnachol sylweddol. Mae olion yr halendai o’r unfed ganrif ar bymtheg ym Mhorth Einon yn ein hatgoffa o'r diwydiant pwysig hwn. Yng nghefndir y llun uchod, gallwch weld cwch pysgota nodweddiadol sy'n debyg i'r rhai a welwyd yn y dyfroedd o gwmpas Abertawe. Fodd bynnag, mae gorbysgota wedi lleihau maint pysgodfeydd penwaig heddiw yn sylweddol o'u cymharu â'r gorffennol.
Mae'r gyfrol yn dechrau gyda phennod am y naturiaethwr enwog, y Barwn Von Humboldt, a'i archwiliadau a'i nodiadau am natur, a oedd yn werthfawr iawn i'r rheini a oedd yn ei ddilyn, gan gynnwys Charles Darwin ac Alfred Russell Wallace. Teithiodd Humboldt yn helaeth o gwmpas cyfandiroedd America, wrth iddo archwilio a disgrifio'n fanwl o safbwynt gwyddonol modern.