Rhai o lyfrau Dylan Thomas: Harold Norse

Harold Norse, The Undersea Mountain

Alan Swallow, Denver, Colorado, 1953. 54 p.

The New Poetry Series, 8

 

Argraffiad cyntaf. Mae lluniau mewn pensil ar glawr blaen y siaced lwch. Mae'r person wedi lliwio y tu mewn i rai o lythrennau'r teitl a rhoi cylch o gwmpas enw'r awdur. Roedd Thomas yn aml yn dwdlan ar bethau, felly mae'n debygol mai ei waith ef yw hwn.

 

Cyflwyniad y tu mewn i'r dudalen rwymo ym mlaen y llyfr::

“May, 1953

For Dylan with Love”

 

Dyma un o gasgliad bach o lyfrau sy'n eiddo i'r llyfrgell yr oedd Dylan Thomas yn berchen arno.

 

Mae'r llyfr yn cynnwys casgliad cyntaf o gerddi'r bardd nodedig Harold Norse. Bardd arloesol oedd Harold Norse (1916-2009), a oedd yn gysylltiedig â mudiad y Bitniciaid. Roedd yr Iddew hoyw, anghyfreithlon a darllengar hwn o ardal Brooklyn yn rhan o gylchoedd llenyddol Efrog Newydd, lle daeth yn ffrindiau ag Alan Ginsburg a W H Auden, y bu’n gweithio iddo fel ysgrifennydd, a James Baldwin, ymysg eraill. Cyfarfu Norse a Dylan Thomas yn ystod ei ymweliad cyntaf ag Efrog Newydd ym 1950 ar ei ddiwrnod cyntaf, ac roedd yn un o'r bobl a aeth i yfed gydag ef mewn lleoedd fel Greenwich Village yn ystod ei ymweliad.

 

Cydnabuwyd doniau barddonol Norse gan y bardd nodedig William Carlos Williams ym 1951 a chyhoeddodd gerddi mewn cylchgronau llenyddol ac antholegau nodedig. Casglwyd y cerddi hyn o The Undersea Mountain a gyhoeddwyd yn y New Poetry Series mawr ei barch gan wasg Allan Swallow. Roedd barddoniaeth gynnar Norse yn y llyfr hwn yn eithaf ffurfiol er yn argraffiadol iawn, er roedd e’ eisoes yn arbrofi â defnyddio iaith lafar pob dydd yn ei waith, a ddaeth yn arwyddnod iddo. Gellir gweld dylanwad posib gwaith Dylan Thomas mewn nifer o'i gerddi, fel yn y darn hwn:

The Undersea Mountain, p. 44

 

Gall y dylanwad hwn esbonio'r rheswm posib pam roedd Norse am i Dylan gael copi o'i lyfr. Mae'r dyddiad yn dangos bod Dylan wedi derbyn y llyfr yn ystod ei drydydd ymweliad ag America ym mis Mai 1953. Dyma’r adeg y cynhaliwyd y perfformiad llawn cyntaf o Under Milk Wood, ar 14 Mai 1953 yn y Poetry Center, Efrog Newydd.

 

Er y canmolwyd llyfr Norse yn y wasg, penderfynodd deithio i Ewrop yn fuan ar ôl iddo gael ei gyhoeddi, ac arhosodd yno am gyfnod hir fel bardd oddi cartref am 15 mlynedd. Yn wir, treuliodd peth o’r cyfnod hwn yn byw gyda nifer o ysgrifenwyr Bitnicaidd mewn gwesty ym Mharis. Cafodd Norse ei gydnabyddiaeth fwyaf yn y 1970au pan roedd yn byw yn San Francisco fel un o feirdd hoyw gorau'r UDA. Gallwch ddarganfod rhagor am Norse yn yr ysgrif goffa hon gan y Guardian:

"Harold Norse", The Guardian, June 17 2009.

Previous
Previous

Penddelw'r Parch. William “Crwys” Williams

Next
Next

Yr Arglwyddes Charlotte Guest a'i chyfieithiad o'r Mabinogi - Rhan 1