Yr Arglwyddes Charlotte Guest a'i chyfieithiad o'r Mabinogi - Rhan 1
THE MABINOGION, from the Llyfr Coch o Hergest (Red Book of Hergest) and other Ancient Welsh manuscripts, with an English Translation and Notes by Lady Charlotte Guest.
Argraffwyd gan William Rees, Llanymddyfri: Longman, Llundain 1849.
Tair cyfrol. Copi papur mawr hardd lliw rhuddgoch, wedi'i rwymo â lledr o Foroco gyda 5 band dyrchafedig, meingefn eurwaith addurnol, ymylon eurwaith, papurau pen wedi'u marmori.
Arglwyddes Charlotte Guest - William Walker (1791–1867)
- Wikimedia Commons
Dyma gopi Llyfrgell Abertawe o'r cyfieithiad Fictoraidd cyflawn cyntaf yn Saesneg o'r Mabinogi, yr enghraifft enwocaf o lenyddiaeth ganoloesol Gymreig. Fe'i cyfieithwyd gan yr Arglwyddes Charlotte Elizabeth Guest (née Bertie, 1812 –1895) a'i gyhoeddi gyntaf o 1838. Roedd yr Arglwyddes Guest yn bendefiges Seisnig a briododd y diwydiannwr o Gymru, John Guest o Ddowlais, Merthyr Tudful ym 1833. Roedd gwaith haearn Guest yn Nowlais ymysg y mwyaf a'r mwyaf cynhyrchiol yn y byd ar y pryd. Drwy ei gŵr, daeth yr Arglwyddes Charlotte yn gymeriad arwyddocaol yn y cylchoedd uchaf Cymru, gan ymweld â'r teulu Vivian, y meistri copr o Abertawe, ymysg eraill, a chefnogi achosion elusennol ac addysg. Ar ôl i'w gŵr farw ym 1853, bu'r Arglwyddes Charlotte yn ymwneud â rhedeg y gwaith haearn am ychydig flynyddoedd gan ei bod wedi datblygu cryn wybodaeth am y busnes.
Llyfr diweddar y gallwch ei fenthyca o Lyfrgelloedd Abertawe sy'n archwilio stori hynod ddiddorol Charlotte Guest yw'r un gan Victoria Owens sef Lady Charlotte Guest: The Exceptional Life of a Female Industrialist.
Fodd bynnag, caiff ei chofio orau heddiw am ei chyfieithiad o'r Mabinogi. Roedd Charlotte Guest yn fenyw amryddawn a oedd eisoes yn hyddysg mewn sawl iaith pan ddaeth i Gymru yn 21 oed, gan gynnwys Ffrangeg, Arabeg, Lladin ac Eidaleg. Felly dechreuodd ddysgu Cymraeg yn syth ar ôl iddi gyrraedd Cymru. Cymaint oedd ei diddordeb yn yr iaith Gymraeg y dechreuodd gefnogi Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni, a drefnai Eisteddfodau pwysig a oedd yn rhagflaenwyr yr Eisteddfod Genedlaethol ddiweddarach. Gellir gweld pwysigrwydd y Gymraeg iddi am iddi gyflwyno'r Mabinogi i'w phlant:
Daeth y syniad ar gyfer y cyfieithiad o'i chyswllt â'r cylchoedd llenyddol o gwmpas eisteddfodau'r Fenni fel yr hanesydd nodedig y Parch. Thomas Price (Carnhuanawc) a'r Parch. John Jones (Tegid). Gofynnwyd iddi gefnogi cyhoeddiad llawysgrifau Cymraeg fel y Mabinogi ym 1837 a phenderfynodd fynd ati i gyfieithu'r testun ei hun gyda chefnogaeth gan Tegid a Charnhuanawc. Dechreuodd ar y gwaith yn gyflym drwy ddod o hyd i gopïau o lawysgrifau a mynd mor bell â thalu am gopïau o ramantau tebyg mewn llyfrgelloedd tramor i'w cymharu â'r rhamantau yr oedd wedi dechrau eu cyfieithu. Dechreuodd ei gwaith ar yr chwedl Arthuraidd, Iarlles y Ffynnon.
Cyhoeddwyd y llyfrau'n wreiddiol mewn cyfresi rhannol gan William Rees, argraffydd nodedig o Lanymddyfri, gyda'r testun Cymraeg trawsgrifiedig wrth ochr y cyfieithiad Saesneg, a chyda darluniau ar ddechrau pob chwedl. Cefnogai'r Arglwyddes Guest werthoedd cynhyrchu moethus ar gyfer y llyfrau, y cyflawnodd William Rees hyn i safon uchel, gan gynnwys rhai copïau union o'r llawysgrifau gwreiddiol. Yma gallwch weld hysbyseb ar gyfer y gyfrol gyntaf o un o bapurau newydd Abertawe, The Cambrian:
Canmolwyd y saith cyfrol gychwynnol yn helaeth gan iddynt gael eu cyhoeddi rhwng 1838 ac 1845. Yna ym 1849, fe'i hailgyhoeddwyd mewn cyfres o dair cyfrol a dyma'r argraffiad sydd yn Llyfrgell Abertawe.
Mae'r tair cyfrol yn cynnwys deuddeng chwedl y casglwyd pob un ohonynt ynghyd o lawysgrifau Cymraeg amrywiol, yn bennaf o Lyfr Coch Hergest. Mae pedair chwedl asiedig yn ganolog i'r llyfrau hyn sef pedair cainc y Mabinogi, a ddisgrifiwyd drwy wall ysgrifenyddol canoloesol fel y Mabinogion, teitl a ddefnyddiwyd ar gyfer y casgliad. Ychwanegodd yr Arglwyddes Guest wyth chwedl arall atynt o'r llawysgrifau, a oedd yn ymwneud yn bennaf â chwedl Arthur, a oedd yn ei chyfareddu, y mae rhai ohonynt yn ail-ddweud rhamantau Ffrengig yn Gymraeg. Fodd bynnag, mae'r pwysicaf o'r rhain, Culhwch ac Olwen, yn rhagddyddio'r straeon Ffrengig. Culhwch ac Olwen yw enghraifft hynaf o chwedl Arthuraidd fel y byddai beirdd Cymru wedi'i hadrodd.
Rhan ganolog o Culhwch ac Olwen yw Arthur a'i farchogion yn hela'r Twrch Trwyth, baedd enfawr gwaetgar o Iwerddon, helfa a gynhaliwyd ar draws de Cymru a hyd yn oed i ardal Abertawe. Ar un pwynt, mae Arthur a'i ddynion yn cornelu'r baedd ger afon Llwchwr ac yna'n mynd ar ei ôl i'r gogledd i ddyffryn Aman ac ymlaen i'r mynyddoedd Du. Mae cerflun mawr yn Rhydaman heddiw i goffáu'r helfa, ac mae'n bosib bod enwau lleoedd fel Cwmtwrch yn cyfeirio ati. Cyfieithodd yr Arglwyddes Guest y rhan hon yn y ffordd hon:
Yn ail ran y gyfres, awn ymlaen i archwilio sut y daeth cyfieithiad yr Arglwyddes Guest yn boblogaidd a'r dylanwad a gafodd a sut chwaraeodd Llyfrgelloedd Abertawe ran wrth sicrhau ei henw da. Byddwn hefyd yn edrych ar effaith ehangach y Mabinogi drwy edrych ar rai o'r straeon niferus eraill a ysbrydolwyd ganddo.