Penddelw'r Parch. William “Crwys” Williams

Crwys.jpg

Un o drysorau mwyaf Llyfrgell Abertawe y gellir ei weld yn hawdd yw penddelw efydd y bardd lleol enwog Crwys Williams sydd yng nghefn yr adran Astudiaethau Lleol ar lawr cyntaf y Llyfrgell Ganolog.

 

Enillwyd y goron farddol deirgwaith gan y Parch William "Crwys" Williams (4 Ionawr 1875 - 13 Ionawr 1968) ym 1910, 1911 a 1919 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cafodd ei eni a'i fagu yng Nghraig-cefn-parc, Mawr. Cymerodd Crwys ei enw barddol o Gapel yr Annibynwyr “Pant-y-crwys” a fynychodd pan oedd yn blentyn a lle cafodd ei gladdu. Fe'i hystyrir yn un o feirdd mwyaf adnabyddus yr ugeinfed ganrif yn y Gymraeg, a chreodd gerddi poblogaidd fel ‘Melin Trefin’, a ysbrydolwyd gan hen felin segur yn Sir Benfro a'r ‘Border Bach’.

 

Melin Trefin yn Sir Benfro

Melin Trefin yn Sir Benfro

Bu'n archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol o 1939 i 1949, a'r rheswm dros ei gyfnod estynedig yn y swydd oedd yr Ail Ryfel Byd, gan olygu mai ef fu'r archdderwydd hwyaf ei wasanaeth erioed. Am y rhan fwyaf o'i fywyd gweithiol, bu Crwys yn weinidog yn Eglwys yr Annibynwyr Rehoboth ym Mrynmawr, Aberhonddu. Yna ymddeolodd i Abertawe, ond derbyniodd alwad i wasanaethu fel gweinidog yng Nghapel Cynulleidfaol Rhyddings yn Uplands o 1946 i 1953. Mae aelodau o deulu Crwys yn dal i fyw'n lleol yn Abertawe.

 

Atodir plac efydd yn Gymraeg sy'n cynnwys dyfyniad o un o gerddi Crwys o dan y penddelw:

 

cover 1994.JPG

 

Crwys

(1875-1968)

Pregethwr Bardd Eisteddfodwr

Llundain, Rhufain, Parys falch,

- Abertawe i mi bob tro.

Tref fy mebyd cynnar yw.

[Llandysul : Gomer, 1994.]

Byddwn yn trafod cerflunydd y penddelw Jenkin “Tawe” Evans a sut y daeth hwn yn eiddo i Lyfrgelloedd Abertawe yn rhan dau'r blog.

Previous
Previous

Penddelw Crwys Williams a Jenkin Evans, cerflunydd Rhan 2

Next
Next

Rhai o lyfrau Dylan Thomas: Harold Norse