“Lloyd 'Kid' Davis, Swansea's Black Marvel”

Mae Adroddiad Blynyddol diweddaraf Archifydd y Sir o Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, yn cynnwys erthygl, “Lloyd 'Kid' Davis, Swansea's Black Marvel” ar dudalennau 38-42. Fe'i hysgrifennwyd gan y Llyfrgellydd Astudiaethau Lleol, Gwilym Games, ynghyd â Steve Jones, un o ddisgynyddion Kid Davis. Mae'n adrodd stori hynod ddiddorol Kid Davis, y bocsiwr du a anwyd yn America a ymgartrefodd, a ymladdodd ac a dderbyniodd hyfforddiant yn Abertawe yn y cyfnod ychydig cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gyda diddordeb cynyddol yng ngorffennol amlethnig Abertawe, mae stori Kid Davis yn rhoi cipolwg dyfnach i ni o arwr chwaraeon du o Abertawe o dros gan mlynedd yn ôl. Ganwyd Kid Davis yn Denver, Colorado, a chafodd yrfa hynod ddiddorol, yn gyntaf fel beiciwr, cyn dod yn focsiwr proffesiynol. Bu’n ymladd mewn llawer o leoedd yn America, ar hyd ac ar led Prydain, Ffrainc, Gwlad Belg, ac Iwerddon, cyn gwasanaethu yn y Llynges Fasnachol yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gallwch ddarllen yr erthygl yn yr adroddiad ar-lein yma:

https://www.abertawe.gov.uk/article/6227/Adroddiad-Blynyddol-Archifydd-y-Sir

Mae Steve Jones wedi rhoi llungopi o'r pamffled prin, a oedd yn adrodd stori bywyd Kid Davis, i'r gwasanaeth llyfrgell ac mae'n ychwanegiad pwysig at ein casgliadau. Roedd ymchwilio i fywyd Kid Davis yn cynnwys defnyddio un o drysorau mwyaf y lyfrgell - ein casgliadau o bapurau newydd hanesyddol. At ei gilydd, cafodd gornestau Kid Davis, gartref a thramor, sylw helaeth yn y wasg yn Abertawe. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gasgliadau papurau newydd Lyfrgelloedd Abertawe a sut y gallwch eu defnyddio ar gyfer ymchwil hanesyddol yma.

Darganfyddiad diweddar o'r South Wales Daily Post nad oedd modd ei gynnwys yn yr erthygl yw'r copi hwn o ysgrif goffa Kid Davies o 1928, sy'n nodi ei boblogrwydd lleol. Gallwch ei darllen yma:

South Wales Daily Post 10/1/1928, 8

 

Yn ddiweddar, mae Llyfrgelloedd Abertawe hefyd wedi derbyn copïau o lyfr newydd ar focsiwr du arall o Abertawe, Neville Meade, Pencampwr Pwysau Trwm Cymru a Phrydain, a oedd hefyd yn byw yn Abertawe. Enillodd Neville Meade, a oedd yn wreiddiol o Montserrat, deitl Pencampwr Pwysau Trwm Prydain ym 1981 mewn buddugoliaeth drawiadol.

Previous
Previous

Jules Verne, Voyages Extraordinaires

Next
Next

Penddelw Crwys Williams a Jenkin Evans, cerflunydd Rhan 2