‘Flowering Plants grasses, sedges and ferns of Great Britain’, gan Anne Pratt 1806 – 1893
Dyma'r llyfr cyntaf o gyfres o 6 chyfrol gan Anne Pratt a oedd yn un o ddarlunwyr botanegol Seisnig mwyaf adnabyddus yr oes Fictoraidd. Mae gan y rhifyn hwn a gyhoeddwyd ym 1905 rwymiad lliain boglynnog gwyrdd tywyll arddull celfyddyd a chrefft; Mae llythrennu eurad ar y bwrdd blaen. Mae'r rhwymiad hardd ar y tu allan yn rhoi awgrym o'r harddwch a geir ar y tu mewn gyda'r darluniadau lliw niferus a'r testun diddorol.
Lluniodd Anne Pratt fwy nag 20 o lyfrau gwahanol yr oedd wedi'u darlunio â chromolithograffau. Cydweithiodd yn hyn o beth â William Dickes, ysgythrwr a oedd yn fedrus yn y broses gromolithograff. Ysgrifennwyd ei gwaith mewn arddull hygyrch ond cywir a oedd yn rhannol gyfrifol am boblogeiddio llysieueg yn ei hoes. (1)
Mae fersiwn wedi'i digideiddio o'r gyfrol hon ar gael ar-lein: https://www.biodiversitylibrary.org/item/45133#page/11/mode/1up
Priodolir yr awdur â chreu llawer o ddiddordeb ymhlith y cyhoedd mewn fflora Prydeinig drwy gyfuno “gwyddoniaeth hawdd ei deall â blodeueg rhamantus amrywiol” (Blunt a Stearn). Yn wreiddiol, roedd holl fflora Prydain wedi'i gynnwys mewn pum cyfrol a chafwyd chweched cyfrol atodol. Cyhoeddwyd ‘The British Grasses, Sedges, Ferns and their Allies the Club Mosses, Pepperworts, and Horsetails’ ym 1873. Mae Pratt yn dechrau cyfrol un drwy ddweud wrth ei darllenwyr mai "un o'r prif amcanion yw cynorthwyo'r rheini nad ydynt wedi astudio llysieueg hyd yn hyn." (2)
Mae sawl cyfeiriad at y defnydd o blanhigion at ddibenion meddygol yn ogystal â chyfeiriadau at lên gwerin, cerddi a gwybodaeth. Honnir bod y Frenhines Victoria ei hun wedi gofyn yn bersonol am gopïau o holl lyfrau Pratt. (3)
Gellir dod o hyd i esgid y gog heddiw ar ymylon ffyrdd, ac mewn gwrychoedd a choetiroedd yng Ngŵyr.
Roedd y botanegwr o Abertawe, Lewis Weston Dillwyn (1778 – 1855), y byddai ei waith wedi bod yn hysbys i Anne Pratt, wedi cofnodi sawl enghraifft o'r pabi Cymreig ymysg sgydau Cwm Nedd.
Llyfryddiaeth