Dathlu Penlan yn 50 oed!
Atgofion o Lyfrgell Pen-lan oddi wrth y staff…
Mae Jodi wedi gweithio ym Mhen-lan ers amser maith, ac mae plant a arferai ymweld â'r llyfrgell gyda’r ysgol pan ddechreuodd yn ei swydd bellach yn dod a'u plant eu hunain i'r llyfrgell ac maent yn dal i'w chofio!
Mae gennym y cwsmeriaid gorau sydd wrth eu boddau'n adrodd straeon wrthym a dod â theisen.
Rydym wrth ein boddau’n gwisgo i fyny ar gyfer amserau stori a Diwrnod y Llyfr ac rydym wedi cael rhai gwisgoedd gwych dros y blynyddoedd.
Rydym wedi cynnal llawer o weithgareddau difyr ar gyfer ein cwsmeriaid dros y blynyddoedd, o T'ai Chi cadair freichiau, dawnsio llinell, cwis cydganu a boreau coffi i dylino babanod, gweithdai graffiti, heriau torri record ac amser straeon amser gwely.
Our Easter Bonnet parades are always a wonderful sight with everyone making a superb effort a pan fo Siôn Corn yn ymweld â’r llyfrgell, mae ein menywod crefftau a gwau yn dwlu arno gymaint â’r plant. Rhai ymwelwyr rhyfedd.
Mae ein babanod amser rhigwm gwreiddiol bellach yn troi’n 11 oed ac mae’r grŵp yn dal i dyfu, ac rydym yn edrych ymlaen at gael ein babanod nôl yn y llyfrgell ar gyfer sesiwn cân a rhigwm.