Y 5 llyfr ditectif rwy'n eu hargymell…

jude.jpg

Fi yw Judy ac rwy'n rheolwr yn Llyfrgell Ystumllwynarth. Dwi wedi bod yn ddarllenwr brwd ar hyd fy oes ac roeddwn i’n gweithio mewn siop lyfrau cyn gweithio i Lyfrgelloedd Abertawe.

Defnyddiais Lyfrgell Sgeti fel ail gartref pan oeddwn i'n blentyn. Pan ddechreuais i ddarllen ffuglen i oedolion am y tro cyntaf yn hytrach na llyfrau i bobl ifanc, Agatha Christie oedd yr awdur cyntaf i fi ei ddewis a dyna sut datblygodd fy nghariad at nofelau ditectif. Dwi'n darllen llyfrau o bob math, llyfrau ffeithiol yn bennaf, ond dwi bob amser yn dewis llyfr ditectif i ymgolli ynddo. Dwi'n un da am ddyfalu tro annisgwyl mewn stori, felly dwi'n mwynhau ffuglen sy'n fy synnu neu sydd ychydig yn wahanol i nofel dditectif arferol.

Dyma'r 5 llyfr rwyf wedi eu benthyca o'r llyfrgell sydd wedi dal fy sylw (does dim trefn benodol iddynt :))

 

rules for perfect murders swanson.jpg

Darllenais y llyfr hwn yn ystod y cyfnod clo cyntaf - dwi wedi darllen pob un o nofelau Swanson, maen nhw'n wych, ond apeliodd y llyfr hwn yn fawr ataf gan fy mod i'n dwlu ar nofelau ditectif. Mae'r stori'n ymwneud â pherchennog siop lyfrau, Mal Kershaw.

Mae un o swyddogion yr FBI yn dod i'w siop lyfrau i’w gwestiynu am flog y mae wedi'i ysgrifennu, sef 'My 8 favourite murders'. Mae'r blog yn cyfeirio at lofruddiaethau mewn llyfrau gan Patricia Highsmith (Strangers on a Train), Agatha Christie (The ABC Murders) ac eraill. Mae'r swyddog yn ymchwilio i lofruddiaethau heb eu datrys, lle lladdwyd pob dioddefwr yn yr un ffordd.

Dwi ddim am ddatgelu unrhyw wybodaeth arall ond mae e’ fel darllen sawl llyfr o fewn un llyfr, sy'n arwain ymlaen at fy ail ddewis.

magpie murders.jpg

Roedd y llyfr hwn yn anhygoel. Llyfr o fewn llyfr. Mae'n adrodd stori golygydd, Susan Ryeland, sy'n darllen llawysgrif gan yr awdur, Alan Conway. Mae Conway'n arbenigo mewn nofelau ditectif yn arddull Agatha Christie/Dorothy L Sayers, gan osod ei straeon mewn pentrefi bach croesawgar. Enw ei dditectif yw Atticus Pund a theitl y llawysgrif yw 'Atticus Pund takes the case'.

Roedd tair pennod ar goll o'r llawysgrif gan y bu farw Alan Conway - honnwyd ei fod wedi lladd ei hun. Mae Ryeland yn sicr y llofruddiwyd Conway, ac mae'n ceisio dod o hyd i'r penawdau coll. Mae'n credu bod cliwiau ar gael yn ei nofel. Fel darllenydd, rydych yn ymgolli'n llwyr yn y ddwy stori - mae nofel Pund yn cael ei chyflwyno fel llyfr ar wahân sydd yr un mor bleserus â'r brif nofel. Mae llyfr dilynol hefyd sef The Moonflower Murders, sydd cystal â'r un cyntaf.

seven deaths.jpg

Llyfr ag arddull go wahanol unwaith eto - mae'n rhaid i chi ganolbwyntio'n galed ar y llyfr hwn yn hytrach na’i ddarllen yn frysiog Ond mae’n werth chweil, dwi'n addo. Wedi'i osod mewn plasty yng nghefn gwlad, dyma hanes llofruddiaeth Evelyn Hardcastle, merch ifanc y tŷ. Hyd yn hyn, mae'n ddigon syml - ond caiff y stori hon ei hadrodd mewn saith ffordd wahanol. Nes y bydd un o'r gwesteion eraill yn gallu datrys ei llofruddiaeth, bydd y diwrnod presennol yn ailadrodd ei hun dro ar ôl tro. Mae pob diwrnod yn gorffen  gyda phistol yn cael ei saethu, ond adroddir y stori o safbwynt y gwesteion gwahanol. Mae gan y stori hon naws debyg i The Time Traveller's Wife, mae'n hollol gyfareddol ac yn gwbl wreiddiol.

 

·     

secret history.jpg

Dyma lyfr a hanner! Un o fy ffefrynnau ac un dwi bob amser yn ei argymell i gwsmeriaid y llyfrgell.

Wedi'i osod yn New England, dyma hanes grŵp o ysgolheigion elît sy'n astudio'r Clasuron. Mae un ohonynt, Richard Papen, yn darganfod nad yw'n gallu cofrestru ar gyfer dosbarth yr Athro Julian Morrow gan mai dim ond 5 myfyriwr sy'n gallu cofrestru. Wrth i Richard ddarganfod rhagor am y grŵp hwn, mae'n dod yn amlwg bod un ohonynt, Edmund 'Bunny' Corcoran, yn blacmelio'r grŵp dros farwolaeth ddamweiniol a ddigwyddodd yn ystod bachanaliad. Pan mae Bunny yn bygwth datgelu'r gyfrinach hon, mae'r grŵp yn penderfynu’i ladd. Adroddir y stori gan Richard, sy'n edrych yn ôl ar y digwyddiad sawl blwyddyn yn ddiweddarach. Mae adolygiad yn disgrifio'r llyfr hwn fel 'stori dditectif tu chwith', sy'n ddisgrifiad perffaith.

Dwi wedi dwlu ar lyfrau eraill Donna Tartt, yn enwedig The Goldfinch, ond mae'r llyfr hwn wedi aros yn fy meddwl bron degawd ar ôl ei ddarllen. Rwy'n argymell y llyfr hwn yn fawr.

450 padd.jpg

Mae'n rhaid i fi orffen gyda'r llyfr a ddechreuodd y cyfan. Dyma'r llyfr cyntaf a ddarllenais gan Agatha Christie - yn 11 oed! Nid dyma yw fy hoff lyfr ond dwi'n gallu cofio'r elfen whodunnit, a dwi'n methu dweud yr un peth am ei llyfrau eraill.

Gwyliais addasiad teledu o'r llyfr hwn y llynedd a'i fwynhau, er fy mod i'n gwybod pwy oedd y llofrudd o’r dechrau. Mae'n stori Miss Marple, a chan mai dyma oedd y nofel Christie gyntaf i fi ei darllen, roedd yn well gen i Miss Marple i Hercule Poirot bob tro (er, darllenais i bob un o’i straeon e’ hefyd).

Mae Elspeth McGillicuddy, ffrind i Miss Marple, yn teithio ar drên. Wrth i drên arall yrru heibio, mae'n dyst i lofruddiaeth - mae dyn yn tagu menyw ar y trên arall. Gan nad oes unrhyw dystion eraill na chorff, pwy fydd yn ei chredu? Draw atoch chi, Miss Marple.

 

Rwy'n gobeithio eich bod wedi mwynhau fy newisiadau - er gwaetha'r holl farwolaeth a dinistr, rwy'n berson hapus a hamddenol iawn mewn gwirionedd :)

Mwynhewch y darllen!

Previous
Previous

Dathlu Penlan yn 50 oed!

Next
Next

“The Midnight Library”