“The Midnight Library”
Mae Llyfrgelloedd Abertawe, mewn partneriaeth â'r Asiantaeth Ddarllen a Canongate Books, yn rhannu hud a lledrith "The Midnight Library" ar draws Abertawe drwy gynnig 1000 o gopïau o'r llyfr am ddim.
Caiff y llyfrau eu rhoi fel rhan o ddathliadau Noson Llyfrau'r Byd drwy gydlynwyr lleol, banciau bwyd a sefydliadau eraill yn Abertawe.
Dyma farn ein tîm am y llyfr...
"Waw, dyna lyfr anhygoel, cadarnhaol a dyrchafol a phwerus Mae'n mynd i'r afael â materion difrifol a allai dinistrio bywyd sef pryder, iselder, meddyliau am hunanladdiad, hunan-werth (neu ddiffyg hunan-werth) anifeiliaid anwes marw, newid yn yr hinsawdd a meddylfryd "man gwyn man draw". Mae'n gwneud hyn gyda hiwmor ysgafn, athroniaeth ac athrylith llwyr. Lle rhwng bywyd a marwolaeth yw The Midnight Library lle mae pob llyfr yn rhoi'r cyfle i roi cynnig ar fywyd arall y gallech fod wedi'i fyw pe baech wedi gwneud dewisiadau gwahanol - ffordd gwirioneddol syml i esbonio'r dehongliad aml-fydol o ffiseg gwantwm a swyddogaeth y don gyffredinol. Gallai pethau fod wedi mynd braidd yn ailadroddus, ond wnaeth e' ddim - roedd e'n llawer, llawer gwell.
Nid yw cael awdur gwrywaidd yn ysgrifennu o safbwynt benywaidd bob amser yn taro deuddeg, ond llwyddodd Matt Haig yn hyn o beth.
Dogfennir y meysydd iechyd meddwl yn dda, ac yn rhai y mae ganddo wybodaeth ddofn amdanynt ac mae ei gariad at yr amgylchedd a'i frwdfrydedd dros lyfrgelloedd yn amlwg. Mae'n gerdd i fywyd.
Felly darllenwch e', does dim modd i f'adolygiad wneud cyfiawnder ag e'.”
Tracey, Pencadlys y Llyfrgelloedd
"Mae bydysawdau cyfochrog yn hynod ddiddorol, ac mae Matt Haig yn eu defnyddio i gyflwyno neges gref a phwysig.
Mae Nora, menyw sy'n dioddef o iselder sy'n deillio yn ôl pob golwg o 'beth os' cyfleoedd coll, yn cael cyfle i ymweld â, a phrofi, llinellau amser niferus eraill yn ei bywyd ei hun drwy'r Midnight Library.
Mae ysgrifennu Matt Haig yn syml ac yn gain ac fe wnes i fwynhau'r stori'n fawr hyd yn oed os nad oeddwn yn gallu cysylltu'n llwyr â'r cymeriadau, sy'n ymddangos fel offer y mae'r awdur yn eu defnyddio i gyfleu syniadau arwyddocaol ynghylch gwerth bywyd dynol. Fel yr ysgrifennodd Thoreau, ”Nid yr hyn rydych yn edrych arno sy'n bwysig ond yr hyn a welwch”.
Phil, Llyfrgell Pontarddulais
"Wel byddai dweud mod i'n gyffrous i ddarllen hwn yn ddweud cynnil, llyfr am lyfrgelloedd ynghyd ag arddull ysgrifennu craff Matt Haig.
Mae'n dilyn hanes Nora wrth iddi fynd i mewn i lyfrgell yn llawn llyfrau am ei bywyd a'r bywydau amgen y gallai fod wedi'u cael.
Llyfr am fywyd, edifeirwch a charedigrwydd at eich gilydd. yw hwn Yr unig rwystr oedd fy mod i am gael mwy.
'Gadewch i ni fod yn garedig i bobl yn ein bodolaeth ein hunain.'
Jen, Llyfrgell Ganolog Abertawe
"The Midnight Library oedd y llyfr mwyaf pleserus a chofiadwy a ddarllenais i yn 2020 (a dwi'n darllen llawer) Mae'n ystrydeb ond mae'n wir - allwn ni ddim ei roi i lawr.
Roedd yn ysgogi'r meddwl, yn hynod ddiddorol ac yn gwbl unigryw.
Fe'm gadawodd yn teimlo'n ysbrydoledig ac fe wnaeth i mi feddwl am bwysigrwydd derbyn yr hyn sydd gennych mewn bywyd, cyfrif eich bendithion a gofalu'n dyner am y rheini o'ch cwmpas.
Mae pawb dwi'n ei adnabod sydd wedi'i ddarllen wedi dweud yr un peth - darllenwch e', mwynhewch e' a siaradwch amdano gyda'ch ffrindiau - fyddwch chi ddim yn gallu peidio â gwneud hyn!”
Karen D, Pencadlys y Llyfrgelloedd
“Adolygiad o lyfr, ‘The Midnight Library’.
Llyfr hyfryd, sy’n llawn tristwch a gobaith. Trwy lygaid Nora, archwiliwn y syniad o edifeirwch, euogrwydd ac ail gyfleoedd a dechreuwn ddeall pŵer dewis a hunanfaddeuant.
Mae Matt Haig wedi bod yn hyrwyddo cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o afiechydon meddwl fel iselder ers tro, mae ei naratif tosturiol unwaith eto’n cynnig cysur a gobaith i eraill a allai fod yn ei chael hi'n anodd. 5 seren.”
Seren, Llyfrgelloedd Ystumllwynarth
Diolch i'r Asiantaeth Ddarllen, Canongate Books a Noson Llyfrau'r Byd am adael i ni gymryd rhan yn y digwyddiad gwych hwn lle byddwn yn rhoi copïau o "The Midnight Library" gan Matt Haig yn rhodd - mae rhoi llyfrau yn deimlad gwych!
Gallwch lawrlwytho copi o "The Midnight Library" i'w ddarllen neu wrando arno ar Borrowbox - mae gennym hefyd lawer o gopïau ar gael i’w benthyca drwy'n gwasanaeth Clicio a Chasglu.