Ffuglen Hanesyddol ar eich cyfer!

Dyma bum nofel rydym yn meddwl y byddwch chi'n eu mwynhau - mae'r holl lyfrau ar gael o'n llyfrgelloedd gan ddefnyddio'r gwasanaeth Clicio a Chasglu neu trwy BorrowBox, ein gwasanaeth lawrlwytho AM DDIM.

Workshop (2).png

 

“The Devil and the Dark Water” gan Stuart Turton

Mae'r llyfr hwn yn wahanol iawn i lyfr cyntaf Stuart "The Seven Deaths of Evelyn Hardcastle" ond disgrifir golygfeydd yn wych ac mae'n cynnwys yr holl wewyr meddwl a marwolaethau niferus - tybed a fydd hyn yn parhau i drydydd llyfr Stuart?

 

Mae'r stori'n dechrau ar y môr ym 1634 lle caiff Samuel Pipps ei drawsgludo i Amsterdam i’w ddienyddio am drosedd. Gyda’r llong yn cael ei gwthio i storm o wewyr meddwl a thri dyn yn cael eu tynghedu i farwolaeth– ai’r goruwchnaturiol yw hyn? Mae llofruddiaeth, dirgelwch a digon o wewyr yn rhan o blot sy'n bythol dyfu a fydd yn gafael ynoch hyd y diwedd.

Workshop (3).png

“The Mercies” gan Kiran Millwood Hargrave 

Mae'r llyfr hwn wedi’i gyhoeddi ers amser ond mae wedi aros yn fy meddwl ac roeddwn i'n gwybod bod angen ei roi ar y rhestr – fe’i lleolir ar y môr, yn yr un ganrif a stori Stuart Turton, ac mae'n dechrau gyda dynion ynys Norwyaidd gyfan yn mynd ar goll yn ystod storm sydyn a thrychinebus, felly mae menywod Vardo'n dod i'r amlwg!

 

Wedi'i ysbrydoli gan storm go iawn Vardo a threialon gwrachod 1621, mae Kiran wedi ysgrifennu stori llawn drwgdybiaeth, cariad a chreulondeb yn erbyn menywod - mae'r llyfr yn hiraethus o hyfryd.

Workshop (5).png

“Execution” gan SJ Parris

Yn y diweddaraf yng nghyfres Giordano Bruno SJ Parris am ysbïwriaeth yn ystod oes y Tuduriaid, mae Parris wedi gwneud Giordano Bruno, heretic ac athronydd o’r 16eg ganrif, yn arwr annhebygol iawn.

 

Yn llyfr chwech y gyfres "Execution" mae Giordano Bruno unwaith eto'n gweithio i feistr ysbiwyr Elizabeth I, Syr Francis Walsingham – ydyn nhw’n gallu arbed Elizabeth I rhag cynllun llofruddiaeth?

 

Mae SJ Parris yn creu darlun lliwgar o'r cyfnod hanesyddol hwn, a bydd pobl sy'n dwlu ar oes y Tuduriaid yn sicr o'i fwynhau.

 

Workshop.png

“A Net For Small Fishes” gan Sarah Jago

Lleolir y nofel yn y llys Jacobeaidd, ac mae Sarah Jago yn eich cludo yn ôl mewn amser. Mae'n llyfr y gallwch ymgolli ynddo ac mae Jago wedi meistroli’i chrefft gan adrodd y stori'n wych.

 

Mae'r llyfr yn stori sy'n seiliedig ar ffeithiau ac mae'n adrodd hanes Frances Howard a’r Feistres Anne Turner - gan archwilio rhywioldeb a dosbarth wedi'u plethu i un o sgandalau'r cyfnod. Caiff ei ddisgrifio gan un beirniad fel "Thelma a Louise yr ail ganrif ar bymtheg!"

 

Os gwnaethoch fwynhau "The Wolf Hall Trilogy" gan Hilary Mantel neu "The Poison Bed" gan Elizabeth Freemantle, dyma'r llyfr i chi.

Workshop (4).png

"Hamnet" gan Maggie 'O' Farrell

 

Yn 2021, bydd "Hamnet", sef enillydd Gwobr Ffuglen y Menywod a llyfr gorau 2020 yn ôl The Guardian, Financial Times a Literary Hub, yn cael ei ryddhau fel llyfr clawr papur ar 1 Ebrill.

 

Beiddgar, hyfryd a thrychinebus!

 

Stori sy'n llawn emosiwn yw Hamnet am y galar a ddaw ar ôl colli plentyn, mae'n adrodd stori ffuglennol Anne neu Agnes, sef gwraig Shakespeare (sy’n aros yn ddienw trwy’r holl lyfr) a cholled ei mab annwyl Hamnet yn 11 oed.

 

Ond nid llyfr Shakespeare neu Hamnet yw hwn, fel y byddai'r teitl yn awgrymu ond mae'n canolbwyntio ar Anne/Agnes ac yn archwilio’i phlentyndod, ei charwriaeth, ei phriodas a'r drychineb sy'n ei llethu ym 1596.

 

Previous
Previous

“The Midnight Library”

Next
Next

Diwrnod Rhynglwadol y Merched 2021