Mae rhestr fer y Women’s Prize for Fiction wedi'i chyhoeddi....pwy fydd yn ennill yn eich tyb chi?

Mae'n wir, mae Llyfrgellwyr Abertawe'n dwlu ar lyfrau, ac rydyn ni hefyd yn dwlu ar gystadlaethau, felly pan glywsom am yr awduron sydd ar restr fer Women’s Prize for Fiction, a gyhoeddwyd ar 28 Ebrill, roedd yn rhaid i ni dynnu sylw ati.

women's prize logo.png

Mae'r wobr hon, un o'r gwobrau llenyddol uchaf ei pharch, enwocaf a mwyaf llwyddiannus yn y byd, wedi amlygu'r ysgrifennu gorau i fenywod am y 25 mlynedd diwethaf. Mae rhestr fer eleni o chwe llyfr yn ddetholiad medrus ac amrywiol sy'n cynnwys dwy awdures o Brydain, dwy o America, un o Barbados ac un awdures o Ghana/America. Cydnabu'r panel beirniadu pa mor anodd oedd dewis chwe llyfr yn unig ar gyfer y rhestr fer, gan ddweud: “Fiction by women defies easy categorisation or stereotyping, and all of these novels grapple with society’s big issues expressed through thrilling storytelling. We feel passionate about them, and we hope readers do too.”

Felly pwy sydd ar y rhestr ac yn bwysicaf, sut lyfrau ydyn nhw?  Dyma farn Llyfrgelloedd Abertawe am y rheini sydd ar restr fer cystadleuaeth eleni, a'n dewis ni o enillydd.

vanishing half.jpg

The Vanishing Half - Brit Bennett

Yn y nofel hon, sydd i bob golwg yn ymwneud â hanes pasio Americanaidd, mae Bennett yn gweu cenedlaethau a llinynnau amryfal ynghyd i greu myfyrdod realistig, sensitif a meddylgar ar y grymoedd sy'n rheoli penderfyniadau, dyheadau a disgwyliadau person ac yn archwilio rhai o'r rhesymau dros pam y mae rhai pobl weithiau'n teimlo tynfa i fyw fel rhywbeth sy'n wahanol i'w  tarddiad.

 

Piranesi.jpg

Piranesi – Susannah Clarke

Dirgelwch a hud gan awdur Jonathan Strange a Mr Norell.  Nid yw baich ei nofel enwog yn pwyso ar Susannah Clarke; yn lle, yn Piranesi, mae hi wedi ysgrifennu tour de force athronyddol, astudiaeth amserol o unigedd. Nofel hygyrch a hynod ddiddorol y bydd selogion mytholeg a llenyddiaeth glasurol yn dwlu ar y cyfeiriadau sydd ynddi, sydd wedi'u gweu'n gelfydd i stori am athroniaeth foesol ffantasi - ond gyda thro annisgwyl.

unsettled ground.jpg

Unsettled Ground – Claire Fuller

Dyma'r opsiwn 'marmite' - nid yw'r crynodeb yn apelio at lawer ond mae hwn hefyd yn llyfr a ddylai ennill, felly brwydrwch yn erbyn yr awydd i'w roi yn ôl ar y silff.  Gafaelgar, gothig a chlawstroffobaidd yn ei dro, mae Fuller yn cynyddu ymwybyddiaeth o dlodi gwledig, rhywbeth sy'n aml yn cael ei anwybyddu.  Stori o frad a gwytnwch, o fywyd canol oed ar ymylon cymdeithas.  Darllenwch hwn ar gyfer dihangdod ac yn enwedig os gwnaethoch fwynhau Elmet by Fiona Mozley.

 

transcendent kingdom.jpg

Transcendent Kingdom – Yaa Gyasi

Mae'r nofel bwerus, aml-haenog hon am deulu Ghanaidd yn Alabama yn ymdrin â moeseg, crefydd a bod yn gaeth i gyffur ar bresgripsiwn.  Mae Gyasi yn edrych ar y freuddwyd Americanaidd sy'n troi'n hunllef o safbwynt y breuddwydiwr.  Mae'r llyfr hynod ddyfynadwy hwn yn defnyddio tensiwn moesegol darganfyddiad yn erbyn moesoldeb i ysgogi naratif gwaredol ynghylch sut rydym yn gwneud synnwyr o'n cyd-orffennol yn y byd modern. Mae e' mor dda, gallai ennill.

 

no one is talking.jpg

No one is talking About This – Patricia Lockwood

Nofel cyfryngau cymdeithasol realistig?  Mae'r gwaith ffuglen hunangofiannol gwreiddiol, doniol, haniaethol hwn sydd wedi'i gyflawni'n fedrus yn portreadu byd powlen bysgod cyfryngau cymdeithasol ac yn archwilio'r hyn sy'n digwydd pan fydd bywyd yn atal yr hidlydd.  Mae Lockwood yn atgoffa'i darllenwyr fod bywyd y tu allan i ddrysfa gul seicadelig cyfryngau cymdeithasol wrth ofyn cwestiynau dwys am natur cariad, iaith a chysylltiad dynol.

how the one armed.jpg

How the one-armed sister sweeps her house - Cherie Jones

Hanesyn rhybuddiol am baradwys coll a'r hyn sy'n digwydd pan nad yw merched yn ufuddhau i'w mamau.  Wedi'i osod ar ynys Barbados sy'n denu llu o dwristiaid ac yn manteisio arnynt, mae'r awdures newydd hon yn paentio stori am dair priodas, deuoliaeth cyfoeth a'r siawns o oroesi.  Dyma nofel afaelgar sy'n symud yn gyflym ac a ysgogir gan y cymeriadau.

Felly, p'un o'r rhain y mae Llyfrgelloedd Abertawe'n rhagweld y bydd yn ennill?

Claire Fuller, Unsettled Ground

Gyda Yaa Gyasi,Transcendent Kingdom a Susannah Clarke, Piranesi fel yr ail oreuon.

Cyhoeddir 26ain enillydd y 'Women’s Prize for Fiction' ddydd Mercher 7 Gorffennaf.

 

Previous
Previous

“Byddwch y goleuni ym mywyd rhywun”

Next
Next

Dathlu Penlan yn 50 oed!