“Byddwch y goleuni ym mywyd rhywun”
Yn 2019, cychwynnodd EmpathyLab, gyda chymorth cronfa Nesta’s Future Ready gynllun peilot gan weithio gyda Ysgol Uwchradd Pentrehafod a'r 7 ysgol fwydo i gyflwyno rhaglen EmpathyLab a oedd yn cefnogi pwyslais cwricwlwm newydd Cymru 2022 ar empathi. Yr ysgolion cynradd bwydo yn Abertawe yw Brynhyfryd, Burlais, Clwyd, Gwyrosydd, Hafod, Plasmarl a Waun Wen sydd oll wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag Empathylab a'u llyfrgelloedd lleol i gefnogi'r prosiect hwn.
Dyma'r themâu rydym yn canolbwyntio arnynt eleni - Unigrwydd, Digartrefedd a Ffoaduriaid.
Rydym wedi gweld llyfrau stori a barddoniaeth a llyfrau gwybodaeth hyfryd mewn llyfrgelloedd yn Abertawe. Rydym wedi gwahodd disgyblion o'r ysgolion peilot i ymweld â'u llyfrgell leol ym Mrynhyfryd neu Ben-lan i fod yn llygadwyr llyfrau empathi, gan rannu eu hoff lyfrau empathi â ffrindiau a theulu.
“Toffee” gan Sarah Crossan
Llyfr sydd wedi'i ysgrifennu'n wych a enynnodd bob emosiwn oddi mewn i mi. Daeth y cymeriadau'n fyw ac roeddwn i'n dwlu ar y ffaith nad oedd angen llawer o eiriau i greu'r teimladau a'r tensiwn drwy'r holl stori. Allwn i ddim â'i roi i lawr.
JODI
Y llynedd gwnaethom addurno ffenestri yn y gymuned gyda chalonnau Empathi er mwyn i deuluoedd ddod o hyd iddynt ar eu teithiau cerdded Empathi.
Eleni rydym yn gofyn i deuluoedd ffonio’r llyfrgell i gasglu eu taflen liwio Empathi fel y gallant eu harddangos yn eu ffenestri er mwyn i unrhyw un ar daith gerdded Empathi ddod o hyd iddynt.
https://swan.ent.sirsidynix.net.uk/custom/web/content/be_the_light.pdf