Fy hoff bethau… Ffuglen Wyddonol & Ffantasi

MicrosoftTeams-image (43).png

Fy enw i yw Steve a fi yw rheolwr Llyfrgell Cilâ.

Rwy'n mwynhau darllen y rhan fwyaf o fathau o ffuglen ond rwy'n dwlu ar ffuglen wyddonol a ffantasi.

Dechreuais fwynhau'r genre hwn am 12.15pm ar 5 Mawrth 1977 pan ddechreuais ddarllen ail rifyn comig 2000AD yr oedd fy mam-gu wedi'i brynu i mi.

Mewn gwirionedd, cefais y comig am 11.30am, ond treuliais y 45 munud cyntaf yn tynnu sticer “braich fionig” y Six Million Dollar Man, a ddaeth gyda’r rhifyn.

Diolch Nan!

Diolch Nan!

Guilty Pleasure Text 4 photo 2.jpg

Yn fuan ar ôl hynny, fe wnes i ddarganfod H G Wells, a chefais fy hun yn lleibio llyfrau “The First Men in the Moon”, “The Time Machine” a “War of the Worlds” (yr olaf wrth ganu “The Chances of Anything Coming From Mars" Jeff Wayne, wrth gwrs).

Guilty Pleasure Text 4 photo 3.jpg

Yn fy arddegau cynnar, des i o hyd i gopi o “Foundation” gan Asimov yn Llyfrgell Brynhyfryd. Cefais fy syfrdanu ganddo, er dwi ddim yn hollol siŵr fy mod i wedi deall ei gynnwys yn llwyr.

Er hynny, roeddwn bellach yn teimlo fy mod i wedi graddio mewn rhyw ffordd ac y gallwn ystyried fy hun yn ddarllenydd ffuglen wyddonol GO IAWN.

Dros y blynyddoedd nesaf, darllenais bob llyfr ffuglen wyddonol y gallwn gael fy nwylo arno. Fodd bynnag, pan gyrhaeddais 18 oed, roedd cwymp amlwg a sydyn o ran fy narllen.

Roeddwn i wedi dechrau fy mywyd rhyfedd fel myfyriwr, wrth gwrs! Yn wir, heblaw am fy ngwerslyfrau, yr oedd yn rhaid i mi eu darllen, yr unig ddeunyddiau eraill rwy'n cofio eu darllen yn ystod y cyfnod hwn yw comig VIZ, a swm rhyfeddol o fwydlenni bwytai Indiaidd. Nid oedd gan yr un ohonynt unrhyw gysylltiad â ffantasi a ffuglen wyddonol, ar wahân i un bwyty arbennig ychydig y tu allan i Fanceinion a honnodd iddo wneud y 'korma' cyw iâr gorau yng ngogledd-orllewin Lloegr - gallaf gadarnhau mai FFANTASI llwyr oedd hwnnw!

Guilty Pleasure Text 4 photo 4.jpg

Ar ôl i mi orffen yn y brifysgol, dechreuais ddarllen eto, ond gyda ffocws newydd ar awduron llyfrau ffantasi.

Dros y blynyddoedd, rwyf wedi darllen The Lord of the Rings deirgwaith, er, nid yw fy ffordd i o ddarllen y llyfr yn un confensiynol. Roeddwn i'n eistedd adref un Nadolig, pan gafodd ffilm animeiddiedig The Lord of the Rings o 1978 ei ddarlledu ar y teledu. Nawr, mae unrhyw un sy'n gyfarwydd â'r ffilm hon yn ymwybodol bod gan y ffilm un anfantais fawr - dim ond rhan o'r stori y mae'n ei hadrodd. A phan rwy'n dweud mai dim ond rhan o'r stori sy'n cael ei hadrodd, nid wyf yn golygu mai rhan 1 o gyfres o ffilmiau yw hon - dim ond rhan o'r stori sy'n cael ei hadrodd…

Daw'r ffilm i ben yn sydyn yng nghanol y stori, a ni fentrodd neb greu ffilm ddilynol chwaith. Er hynny, mae'n amlwg bod y ffilm wedi creu argraff, gan fy mod i'n hynod awyddus i wybod beth ddigwyddodd nesaf, a chyn gynted ag yr ailagorodd fy llyfrgell leol, benthycais gyfrol gyfan The Lord of the Rings a darllenais y cyfan o fewn wythnos.

Guilty Pleasure Text 4 photo 5 (1).jpg

Petai'n rhaid i mi ddewis fy hoff awdur llyfrau ffuglen ffantasi, David Gemmell fyddai hwnnw.

Yn llawn cyfro ac arwyr, mae'n gwneud i seren Game of Thrones, John Snow, edrych fel Philip Schofield (dwi'n ddyn caredig iawn) ac mae pob un nofel yn wirioneddol wych.

Byddwn yn argymell yn arbennig ei nofelau “Drenai”, y cyntaf ohonynt yw Legend.

Guilty Pleasure Text 4 photo 6.jpg

Felly, beth ydw i'n ei ddarllen heddiw? Wel, dwi newydd orffen darllen cyfres “Lost Fleet “Jack Campbell.

Dyma un o'r cyfresi ffuglen wyddonol filwrol gorau a ysgrifennwyd ers blynyddoedd ac mae wedi bod yn hynod boblogaidd gyda phob un person sydd wedi'i fenthyca o Lyfrgell Cilâ.

Yn llawn cymeriadau cryf, straeon sy'n hoelio sylw a disgrifiadau credadwy o frwydrau, dwi'n credu bod hwn yn llyfr y mae'n rhaid i unrhyw un sy'n dwlu ar ffuglen wyddonol ei ddarllen.

Y peth gorau yw, mae gennym y gyfres gyfan ar gael i'w benthyca drwy Lyfrgelloedd Abertawe!

Felly, dyma yw fy hoff beth. Beth yw eich hoff beth chi?

Previous
Previous

Straeon i oedolion ifanc y dylid creu ffilm ohonynt…

Next
Next

“Byddwch y goleuni ym mywyd rhywun”