Straeon i oedolion ifanc y dylid creu ffilm ohonynt…
Bethan ydw i, a dwi'n un o brif lyfrgellwyr Llyfrgelloedd Cyngor Abertawe.
Dwi'n dwlu ar ddarllen llyfrau ffuglen i oedolion ifanc, yn enwedig llyfrau ffuglen ffantasi. Dwi ddim yn hoffi rhoi label ar bethau - mae llyfr da yn llyfr da, hyd yn oed os nad ydych chi yn yr ystod oedran targed gan gryn dipyn ... Gyda theitlau llyfrau ffuglen i oedolion ifanc yn cael eu haddasu ar gyfer y sgrîn, fel Shadow and Bone gan Leigh Bardugo a'r cyhoeddiad diweddar am addasiad Sarah J Maas’ A Court of Thorn and Roses, dyma fy newisiadau o lyfrau neu gyfresi y byddwn i wrth fy modd yn eu gweld yn dod yn fyw…
Holly Black - cyfresThe Folk of the Air (The Cruel Prince/The Wicked King/The Queen of Nothing)
Cynllwyn, twyll, llofruddiaeth... a'r cyfan yn Uchel Lys Faerie. Mae Jude yn feidrolyn sy’n cael ei gorfodi i fyw yn Faerie gan y dylwythen deg a lofruddiodd ei rhieni. Mae'n cael ei magu a'i hyfforddi i oroesi bywyd yn yr Uchel Lys, wedi'i hamgylchynu gan greaduriaid sy'n gryfach ac yn fwy hardd na hi, y mae rhai ohonynt yn casáu meidrolion. Ym mhob stori dda, os oes gennych arwres, mae angen dihiryn posib arnoch, a dyma fe, y Tywysog Cardan.
Ar y sgrîn, hoffwn feddwl y byddai'n debyg i Gossip Girl ond ychydig yn fwy creulon, gyda thylwyth teg yn lle cymdeithaswyr Efrog Newydd - mae'r cynllwynio'n bendant ar lefel debyg.
Krystal Sutherland – House of Hollow
Arswyd gydag elfennau o’r ochr ryfedd ... meddyliwch am Stranger Things ac ychydig o Twin Peaks hefyd. Mae'r stori'n ymwneud â'r chwiorydd Hollow a'u diflaniad a'u hailymddangosiad dirgel 10 mlynedd yn ôl. Yn y presennol, mae'n ymddangos bod beth bynnag a ddigwyddodd bryd hynny yn dal i fyny â nhw nawr. Tywyll, gothig a swrrealaidd, dwi'n dychmygu y byddai David Lynch neu Guillermo del Toro yn cael llawer o hwyl gyda'r llyfr hwn.
Brigid Kemmerer – cyfresThe Cursebreaker (A Curse So Dark and Lonely/A Heart So Fierce and Broken/A Vow So Bold and Deadly)
Roeddwn yn hwyr yn darllen y gyfres hon, ond wedyn darllenais y cyfan o fewn ychydig ddiwrnodau.
Mae'r gyfres ychydig fel Disney ar gyfer oedolion, heb yr adar a'r llygod cymwynasgar. Dwi'n gwybod bod Beauty and the Beast wedi'i addasu filiynau o weithiau, ond mae hon yn fersiwn wahanol ar y stori draddodiadol - arwres o'r byd go iawn gyda phroblemau bywyd go iawn wedi'i thynnu i mewn i hunllef ffantasi, ynghyd â dewines ddrwg, tywysog melltigedig a gwarchodwr ffyddlon. Mae'n dod yn llawer mwy na stori’r Beast a byddai'n gwneud trioleg o ffilmiau gwych.
Cassandra Clare – The Infernal Devices (Clockwork Angel/Clockwork Prince/Clockwork Princess)
Mae The Shadowhunter World wedi'i addasu ddwywaith eisoes – ffilm yn 2013 ac yna yn fwy diweddar gyda'r gyfres Shadowhunters. Roedd y ddau'n seiliedig ar gyfres The Mortal Instruments, wedi'u gosod yn y presennol ac yn fy marn i, roedd y ddau'n ofnadwy. Newidiwyd gormod o'r stori, doedd y cymeriadau ddim fel y byddwn i wedi'u dychmygu etc. Hoffwn weld addasiad o drioleg The Infernal Devices, wedi'i leoli yn Lloegr yn Oes Fictoria, yn llawn hyfrydwch pync-stêm, llinach Shadowhunter ac ymddangosiad gan fy hoff swynwr, Magnus Bane.
O.N. Dwi wedi clywed sibrydion (o'r rhyngrwyd) y gallai fy nymuniad Infernal Devices ddod yn wir...