Yn fwy chwilfrydig ac yn fwy chwilfrydig fyth....Abertawe, ddoe a heddiw gan Karen McCloy

Beth wnaeth i mi fod yn chwilfrydig am hanes lle rwy'n byw?

Y cyfyngiadau symud!!!

Fel llawer ohonom, rwyf wedi dod i adnabod fy ardal leol yn dda iawn dros y 15 mis diwethaf (ychydig yn rhy dda efallai). Fe’m cefais fy hun yn edrych ar yr hyn o’m cwmpas mewn goleuni gwahanol, ac mae wedi gwneud i mi feddwl am y dyddiau a fu.Rwy'n gwybod bod gan Abertawe gefndir diddorol iawn, a bod rhai newidiadau mawr wedi bod i ganol y ddinas.

Hoffwn archwilio rhywfaint o'r hanes hwn, gan edrych ar rai adeiladau ac ardaloedd penodol ar hyd un o fy llwybrau cerdded rheolaidd.

Un peth y byddwch chi'n sylwi arno wrth edrych ar fapiau hanesyddol o Abertawe yw nifer y tafarndai a arferai fodoli.Ffaith: Ddegawd yn ôl roedd gan Abertawe dros 200 o dai trwyddedig.

Photo 1 Arches hotel.jpg

Gwesty'r Arches ar Parêd y Cei gyda melin flawd Weavers yn y cefndir, 1920au

Perchennog: Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Llongau yn aros i lwytho glo ar gyfer De America yn Noc Tywysog Cymru, 1890au (Perchennog: Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Abertawe)

Llongau yn aros i lwytho glo ar gyfer De America yn Noc Tywysog Cymru, 1890au

(Perchennog: Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Abertawe)

Erbyn 1870 roedd porthladd Abertawe yn trin dros 1.5 miliwn tunnell o gargo y flwyddyn.Er mwyn bodloni'r galw hwn, adeiladwyd Pont Rheilffordd Tawe a oedd yn caniatáu i Reilffordd Cwm Nedd gael mynediad i Ddoc y De Abertawe. Mae'r pileri a oedd yn cefnogi'r bont hon i'w gweld hyd heddiw.

Photo 3 Railway bridge pillars.jpg
Map Arolwg Ordnans 1919

Map Arolwg Ordnans 1919

Roedd melin flawd Weavers yn arfer sefyll ar safle presennol Sainsbury’s, Parêd y Cei. Fe’i hadeiladwyd ym 1897 gan y peiriannydd Ffrengig, François Hennebique, a hwn oedd yr adeilad cyntaf yn y DU a wnaed o goncrit cyfnerthedig.

Heddiw fe welwch blac coffa a cholofn o'r adeilad gwreiddiol ar hyd y llwybr troed ger pileri Pont Rheilffordd Tawe.

Awyrlun o fasn hanner llanw Doc y Gogledd a melin flawd Weaver's, 1960au (Perchennog: Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg)

Photo 7 Ice House.jpg

Roedd y Tŷ Iâ, sydd wedi’i enwi’n addas ac sy'n gartref i fflatiau a The River House Restaurant ar hyn o bryd, yn Ffatri Iâ ar un adeg – fe’i hadeiladwyd yn yr 1880au i wasanaethu masnach dociau Abertawe, a oedd yn tyfu. Aeth ymlaen i fod yn siop gwneud canhwyllau ym 1926.Awgrym: mae'r mynegai adeiladau rhestredig ar wefan Cyngor Abertawe yn adnodd gwych ar gyfer dod o hyd i hanes cyffredinol ac union leoliad adeilad rhestredig.

Mae llawer o adnoddau am ddim ar gael o Lyfrgelloedd Abertawe i'ch helpu i ddarganfod gwybodaeth am hanes eich ardal leol. Gofynnwch i'ch llyfrgell leol neu cysylltwch â'n gwasanaeth llinell y llyfrgelloedd am ragor o wybodaeth.Fodd bynnag, byddwch yn ofalus oherwydd efallai y byddwch yn cwympo i lawr twll cwningen, er yn y ffordd fwyaf rhyfeddol.

Gwefannau defnyddiol:

www.abertawe.gov.uk/llyfrgelloedd

www.abertawe.gov.uk/holillyfrgellydd

www.abertawe.gov.uk/MynegaiAdeiladauRhestredig

www.casgliadywerin.cymru/

Previous
Previous

Y llyfrau mae ein plant wedi’u darllen yr haf hwn…gan Jennifer Dorrian

Next
Next

Sialens Ddarllen yr Haf 2021… gan Carole Billingham