Sialens Ddarllen yr Haf 2021… gan Carole Billingham
Felly eleni rydym yn croesawu'n frwd 22ain flwyddyn Sialens Ddarllen yr Haf yr Asiantaeth Ddarllen sef 'Arwyr y Byd Gwyllt', a grëwyd mewn partneriaeth â WWF, prif sefydliad cadwraeth annibynnol y byd, ac a ddarluniwyd gan yr awdur a'r darlunydd plant arobryn, Heath McKenzie.
Mae 'Arwyr y Byd Gwyllt' yn archwilio ffyrdd o helpu i achub y blaned, gan ganolbwyntio ar weithredu dros natur, ac mae chwe phreswylydd ifanc Trewylltach yn mynd i'r afael â materion amgylcheddol y byd go iawn, o lygredd plastig a datgoedwigo, i ddirywiad bywyd gwyllt a cholli natur. Pan fyddwch yn cymryd rhan yn y sialens, byddwch yn dod yn Arwr y Byd Gwyllt eich hun ac yn helpu i ddatrys rhai o'r bygythiadau hyn, gan ddysgu am bwysigrwydd yr amgylchedd wrth helpu i adfer lefelau natur yn Nhrewylltach.
Mae Sialens Ddarllen yr Haf wedi dod ymhell o'r un gyntaf oll, ond mae'r un neges wrth wraidd pob un dros y 22 flynedd – mae'n cyfuno mynediad AM DDIM at lyfrau, i BAWB, ynghyd â gweithgareddau difyr, creadigol dros wyliau'r haf. Drwy gydol y sialens, mae staff y llyfrgell, a gwirfoddolwyr ifanc hefyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi bod yno i gefnogi'r holl blant i ymuno â'r sialens, a hefyd eu helpu i ddarganfod awduron a darlunwyr newydd.
Eleni gallwch ymuno â'r sialens yn eich llyfrgell leol, lle byddwch yn derbyn poster casglwr Arwyr y Byd Gwyllt. Yna, dros wyliau'r haf dewch i ymweld â ni deirgwaith, archwiliwch ein llyfrgelloedd plant gwych ac ewch ati i ddewis o leiaf chwech o'n llyfrau gwych, mewn unrhyw fformat, a'u darllen drosoch eich hun, neu gallwch eu harchebu ymlaen llaw drwy 'glicio a chasglu'. Mae nofelau, llyfrau ffeithiau, llyfrau lluniau, nofelau graffig, llyfrau jôcs, e-Lyfrau a llyfrau sain i gyd yn cyfrif tuag at gwblhau'r sialens. Gallwch gasglu cymhellion bob tro y dewch yn ôl i'r llyfrgell, ac yna, ar ôl i chi gwblhau'r sialens, byddwch yn derbyn tystysgrif a medal sticer. Neu os byddai'n well gennych, gallwch ymuno ar-lein yn www.wildworldheroes.org.uk i ddarllen neu wrando ar e-Lyfrau a llyfrau llafar, yn rhad ac am ddim drwy ein hadnoddau ar-lein.
Sialens Ddarllen yr Haf bellach yw hyrwyddiad darllen blynyddol mwyaf y DU ar gyfer plant 4 i 11 oed. Gallaf gofio bod yn rhan o drefnu'r Sialens Ddarllen yr Haf gyntaf, 'y Saffari Darllen', yn ôl ym 1999. Ar y pryd fe wnaethom ei threialu mewn 3 neu 4 o lyfrgelloedd Abertawe'n unig, a phob blwyddyn, ychwanegwyd 2 neu 3 arall, nes bod pob llyfrgell yn cymryd rhan ynddi. I loywi hen Lyfrgell Ganolog Abertawe yn Alexander Road, fe wnes i anifeiliaid ac adar allan o ddefnydd a gwlân, gyda mwncïod, adar a nadroedd yn hongian o'r nenfwd ar winwydd a changhennau, tra bod anifeiliaid yn crwydro ar hyd waliau llyfrgell y plant.
Ar ôl y 5ed neu'r 6ed flwyddyn gyntaf (rwy'n meddwl), pan oedd yr holl lyfrgelloedd yn Abertawe yn cymryd rhan, sylweddolwyd pa mor bwysig a phoblogaidd yr oedd sialens ddarllen yr haf wedi dod, a phenderfynwyd y byddem yn dathlu pa mor wych yr oedd plant Abertawe, drwy drefnu cyflwyniad. Byddai pob llyfrgell yn dewis enillydd o'r holl blant a oedd wedi cwblhau'r sialens yn y llyfrgell honno, ac yna roeddem wrth ein bodd bod yr Arglwydd Faer, am y tro cyntaf, ac mewn gwirionedd am bob blwyddyn ers hynny, wedi cyflwyno tystysgrif a bag nwyddau arbennig i bob un o enillwyr y llyfrgell. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fe gyflwynom dystysgrifau diolch arbennig i'r gwirfoddolwyr hefyd.
Yn anffodus y llynedd, effeithiwyd ar Sialens Ddarllen Haf 2020, 'Y Sgwad Gwirion', gan y pandemig, a bu'n rhaid i'r Asiantaeth Ddarllen symud yr holl sialens ar-lein yn gyflym iawn, ond rydym yn gobeithio y bydd y sialens yn dychwelyd i'r arfer yn raddol, a gobeithio erbyn y flwyddyn nesaf y byddwn yn ôl i ryw fath o normalrwydd , a byddwn yn gallu darparu digwyddiadau, gweithgareddau, cael gwirfoddolwyr i'n helpu, A chyflwyniad Sialens Ddarllen yr Haf unwaith eto.
I mi mae llyfrgelloedd, llyfrau a darllen bob amser wedi bod yn bwysig, ac mae'r sialens yn annog plant i fwynhau manteision darllen er pleser dros wyliau hir yr haf. Bob blwyddyn gallant ymuno yn yr hud, dod yn ymchwilwyr, yn helwyr gofod, yn gudd-swyddogion anifeiliaid ac yn arwyr, yn ogystal â gloywi'r amseroedd diflas, syrffedus dros yr haf.
Pan fyddwch yn agor llyfr, does gennych ddim syniad beth y dewch chi o hyd iddo y tu mewn, â phwy byddwch yn cwrdd neu i ble y byddwch yn teithio. Gallwch gael eich cludo'n ôl mewn amser, neu i'r dyfodol, ymweld â thiroedd neu deyrnasoedd eraill, a siarad ag anifeiliaid neu greaduriaid chwedlonol. Wrth agor y clawr blaen hwnnw, byddwch dan gyfaredd, gan obeithio weithiau y bydd yn stori ddiddiwedd.