Newyddion llyfrgelloedd Abertawe - Mai 2024

Rydym yn gyffrous i gyflwyno'r newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf sy'n digwydd yn Llyfrgelloedd Abertawe ym mis Mai!

Pride Abertawe yn Neuadd Brangwyn. Ymunwch â ni ar 18 Mai yn Neuadd Brangwyn wrth i lyfrgelloedd Cyngor Abertawe gymryd rhan yn nigwyddiad Pride Abertawe. Dewch draw i'n stondin i ddathlu amrywiaeth a chynwysoldeb gyda ni!

Siop Gwybodaeth dan yr Unto yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Dewch i weld ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 13 Mai lle byddwn yn dosbarthu copïau o lyfr Noson y Llyfr fel rhan o fenter The Reading Agency. Peidiwch â cholli'r cyfle i ddod o hyd i lyfr newydd!

Stondin wybodaeth Ymwybyddiaeth o Ddementia. Er mwyn nodi Mis Ymwybyddiaeth o Ddementia, bydd Hwb Dementia yn cynnal stondin wybodaeth yn y Llyfrgell Ganolog ddydd Iau 16 Mai rhwng 10.00am a 2.30pm. Galwch heibio i ddysgu mwy am ddementia a'r gefnogaeth sydd ar gael yn ein cymuned.

Mis Hanes Lleol Mis Mai yw mis hanes lleol ac rydym yn gyffrous i edrych ar hanes cyfoethog ein cymuned. Bydd ein llyfrgell a'n timau astudiaethau lleol yn cynnal sesiynau hanes teulu mewn llyfrgelloedd cymunedol amrywiol drwy gydol y mis. Dewch i olrhain eich gwreiddiau ac archwilio hanes Abertawe gyda ni!

Pen-blwydd Llyfrgell Sgeti yn 100 oed! Helpwch ni i ddathlu canmlwyddiant ers agor Llyfrgell Sgeti, ein llyfrgell gymunedol hynaf! Gyda hanes cyfoethog sy'n rhychwantu 100 mlynedd, mae Llyfrgell Sgeti wedi tyfu o 450 o lyfrau i gasgliad o 9,782 o lyfrau! Dewch i'r llyfrgell drwy gydol mis Mai i archwilio arddangosfa "Llyfrgell Sgeti'n 100 oed" ac i ddysgu am hanes Sgeti dros y ganrif ddiwethaf.

Sgyrsiau Astudiaethau Lleol yn y Llyfrgell Ganolog Peidiwch â cholli ein sgyrsiau astudiaethau lleol diddorol yn y Llyfrgell Ganolog:

· Dydd Sadwrn 18 Mai, 2.00pm: Nigel A Robbins yn cyflwyno 'Hanes a thirwedd Cilfái - Y tri chan mlynedd diwethaf o newid tirwedd ar Fynydd Cilfái, Abertawe."

· Dydd Sadwrn 25 Mai, 2.00pm: Digwyddiad lansio llyfr - "Eye of the Eagle: Luftwaffe Intelligence and the South Wales Ports 1939-1941" gan Nigel A Robins.

Next
Next

Tachwedd.