Mae mis Hydref ar ben!
Mae mis hydref wedi bod yn fis llawn hwyl gyda llawer o weithgareddau wedi'u cynllunio ar draws ein holl lyfrgelloedd yn Abertawe.
Dathlom gydag enillwyr Sialens Ddarllen yr Haf yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ein noson Gyflwyniadau flynyddol. Rhoddwyd tystysgrifau i'r plant a'r bobl ifanc wych gan yr Arglwydd Faer ac roedd 3 enillydd cyffredinol wedi derbyn gwobrau a roddwyd gan Theatr y Grand Abertawe ac Arena Abertawe.
Daeth y storïwr penigamp, Daniel Morden, i Lyfrgell St Thomas i godi braw ar bawb gyda straeon o'i lyfr newydd Strange Tales, sydd ar gael i'w fenthyca yn llyfrgelloedd Abertawe.
Newidiwyd Llyfrgell Sgeti yn labordy diodydd hud gan MAD Science, gyda chrochanau byrlymol, arddangosiadau dramatig a fflasgiau'n llawn tarth.
Dysgodd cwsmeriaid yn Llyfrgell Cilâ bopeth am y gwaith a wnaed gan Screen Alliance Wales ar gynyrchiadau Ffilm a Theledu, a chawsant y cyfle i ddefnyddio SFX syml i greu anafiadau erchyll.
Roedd y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd yn Llyfrgell Tre-gŵyr gyda'r sesiwn drymio ac adrodd straeon fythol boblogaidd ar ddiwedd mis Hydref ar y cyd â 'Cyfuno' a Chydlyniant Cymunedol i helpu i ddathlu Mis Hanes Pobl Ddu.
Ymwelodd grŵp cymunedol â'r Llyfrgell Ganolog am sesiwn llawn gwybodaeth gyda Gwilym Games, un o'r Llyfrgelloedd Astudiaethau Lleol, a derbyniom adborth cadarnhaol iawn.
"Roedd yn brynhawn gwych, mor addysgiadol a ddim yn hollol beth roeddwn yn ei ddisgwyl. Dwi ddim yn credu ein bod yn gwerthfawrogi faint o wybodaeth sydd yn y llyfrgelloedd ac mae'n debyg y dylen ni defnyddio'n fwy nag yr ydym, ond dywedwch diolch yn fawr iawn wrth bawb yn y llyfrgell, roedd yn gwpwl o oriau gwych ac rwy'n bendant yn mynd i fynd i'r ychydig gyfarfodydd nesaf maent yn eu cael yno, a diolch eto i chi am drefnu'r cyfan. Rhowch don fawr o gymeradwyaeth i Gwilym. Fe wnaeth e'r cyfan yn brofiad difyr dros ben.
I ddod â'r tymor bwganllyd i ben, cafwyd sgwrs gan Gwilym ar 'Spring Heeled Jack', Arglwyddesau gwynion ac ysbrydion eraill bro Gŵyr. Roedd yn sgwrs llawn gwybodaeth ac yn un annaearol o arswydus a byddwn yn cadw llygaid am Arglwyddes Wen Caswell ar ein hymweliad nesaf â'r traeth. BW!