Gaeaf Llawn Lles- Pa lyfr sy’n neud i ti deimlo’n well?
Darllena ‘mlaen, cymera ran!
Mae Cymru eisiau helpu plant a phobl ifanc i deimlo’n well ar ôl blwyddyn anodd ac wrth i ni symud mewn i 2022.
Ym mis Ionawr, bydd Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn ymuno â The Reading Agency i gyflwyno rhan allweddol o ymgyrch Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru. Mae’n mynd i fod yn ddathliad arbennig iawn o ddarllen a phopeth y gall darllen ei wneud i godi hwyliau pobl ifanc 0-25 a chysylltu teuluoedd, ffrindiau a chymunedau ledled Cymru.
Byddwn yn gweithio yn yr ardal hon i ddatblygu rhaglen o ddigwyddiadau cyffrous (mwy o newyddion i ddod!) a ry’n ni eisiau clywed gan blant, teuluoedd, y glasoed a phobl ifanc (unrhyw un o dan 25) am y llyfrau maen nhw wedi eu mwynhau, a pha rai sydd wedi neud iddyn nhw deimlo’n well.
Os wyt ti yn y grŵp oedran yma (neu’n rhiant neu ofalwr i blentyn bach), ry’n ni eisiau gwybod pa lyfrau hoffet ti rannu wrth i’r ymgyrch fynd yn ei blaen. Hoffem i ti ein helpu ni i greu Rhestr Ddarllen Gaeaf Llawn Lles.
Pa lyfr sy’n neud i ti deimlo’n well?
Ry’n ni’n dy wahodd i rannu llyfr Cymraeg neu Saesneg (ffuglen, ffeithiol, barddoniaeth, nofelau graffig, straeon byrion – dy ddewis di) sydd wedi dy helpu yn un o’r ffyrdd isod:
· Gwneud i ti deimlo’n well, drwy godi dy hwyliau neu dy helpu i ymlacio, drwy ddod â gwên i dy wyneb, gwneud i ti deimlo’n dda neu wneud i ti chwerthin wrth i ti droi’r dudalen.
· Teimlo cysylltiad gydag eraill yn dy deulu, cymuned, coleg neu ddosbarth, yn y gweithle neu yn dy amser sbâr.
· Teimlo bod pobl yn dy ddeall gan fod y llyfr yn cydnabod beth rwyt ti’n teimlo ac yn mynd drwyddo, neu dy helpu i ddeall y bobl o dy gwmpas yn well am yr un rheswm
Mae’n bosib fod ‘da ti dy resymau dy hun dros yr argymhelliad, a byddem wrth ein bodd o’u clywed!
‘Na gyd sydd angen i ti (neu dy athro, arweinydd ieuenctid, rhiant neu ofalwr) neud yw ymuno â ni yma CWBLHAU’R AROLWG a dweud wrthym pa lyfr(au) hoffet ti eu rhannu. Dyw’r arolwg ddim yn cymryd lot o amser, a bydden ni’n ddiolchgar iawn i ti am gymryd rhan. Drwy rannu, byddi di’n ein helpu i hybu lles pobl ifanc ledled Cymru.