Bookish Mama Blooms
Ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd mae gennym flogiwr gwadd, Charlotte, o @Bookish_Mama_blooms - darllenwch ei blog, gadewch sylwadau isod ac ewch i gael cip ar ei thudalen Instagram i weld cynnwys llawn llyfrau gwych.
Yn ystod haf 2018, sylweddolais fy mod i heb ddarllen llyfr am flwyddyn. Gan fynd yn ôl ymhellach, sylweddolais fy mod i ond wedi darllen tri llyfr yn y tair blynedd diwethaf - nofelau roeddwn i wedi’u darllen o fewn ychydig ddiwrnodau’n unig ac wedi’u hanghofio'r un mor gyflym er mwyn bod yn fam i fy mhlentyn ifanc. Mae cael plentyn wedi newid fy mywyd, ac wedi fy ngorfodi i roi'r gorau i nifer o'r gweithgareddau a hobïau a oedd yn bwysig iawn i mi o’r blaen. Roedd fy nhŷ gwydr llawn tomatos wedi llwydo, roedd y porthwr adar yn wag yn fwy aml nag oedd yn llawn ac roedd gweddillion prosiectau gwnïo wedi'u gwasgaru ar hyd fy nghartref, roedd waliau wedi'u hanner paentio, roedd sbrigynnau lafant wedi'u clymu yn sychu ar y rheiliau llenni - yr holl brosiectau y dechreuais arnynt cyn i mi gael baban.
Roeddwn i'n fodlon rhoi'r gorau i gynifer o bethau ar gyfer y person bach hwn, ond ar ôl dwy flynedd dechreuais feddwl a oedd rhoi'r gorau i bopeth yn dda i'r naill un ohonom. Roeddwn i'n brysur, roeddwn i wedi blino’n lân ac roeddwn i wedi cael digon - ac roeddwn i'n teimlo fy hun yn treulio’r ychydig eiliadau gwerthfawr o heddwch yn edrych ar fy ffôn. Roedd technoleg yn hawdd i’w threulio gan ei bod wedi'i dylunio ar gyfer pobl pell eu meddwl. Roeddwn i'n gallu darllen pennawd a dysgu am ddigwyddiadau cyfredol wrth chwarae â theganau meddal neu gynhesu ychydig o fwyd. Roedd modd cael cip ar fywydau ffrindiau ar gyfryngau cymdeithasol wrth gerdded y babi mewn sling er mwyn ei helpu i fynd i gysgu. Roeddwn i'n gallu gofyn cwestiynau am isafbwyntiau bwydo ar y fron yng nghanol y nos, a byddai mamau blinedig eraill yn barod i ymateb. Roedd yn fendith - ond hefyd yn gaethiwus ac yn eithaf di-fudd.
Wrth i fy mab wylio a dynwared fy ngweithredoedd ar fy ffôn gyda'i deganau, dechreuais sylweddoli ar effaith fy obsesiwn. Felly des i o hyd i ateb syml - yn hytrach na chodi ffôn, byddwn yn codi llyfr. Roeddwn i wedi rhoi’r gorau i ddarllen gan fy mod i'n mwynhau treulio cyfnodau hir yn ei wneud. Oriau'n gorwedd yn y gwely gyda llyfr a choffi, efallai blanced ar y lawnt ar brynhawn heulog. Ond roedd rhaid rhoi’r gorau i’r math hwnnw o ddarllen a derbyn bod yn rhaid i fi newid fy arferion fy hun os oeddwn i am fod yn frwd dros ddarllen eto. Roeddwn i'n gallu darllen y tudalennau fesul paragraff. Roedd y broses yn araf, ond roedd yn bosib darllen wrth fwydo, neu wrth aros i'r tegell ferwi, neu yn ystod y cyfnodau prin y byddai fy maban yn cael cytun.
Ar yr un pryd ag y cefais y syniad o gyfnewid fy ffôn am lyfr, roeddwn i hefyd yn mwynhau gwylio cymuned o bobl ar YouTube yn siarad am lyfrau, sef ‘BookTube’ i lawer ohonom. Roedd gan fy ffrind annwyl, Siân, sianel a byddaf bob amser yn neilltuo amser ar ei chyfer, gan wylio’i fideos yn awchus wrth iddi siarad am yr holl lyfrau roedd hi wedi’u darllen yr wythnos honno. Roedd e’n edrych fel cymaint o hwyl, roedd hi'n ymddangos mor naturiol ar y camera. Roedd fel cael sgwrs dros goffi, y ddwy ohonom yn unig. "Hoffwn i wneud hynny", meddyliais.
Gyda bwrlwm o egni anghyfarwydd, creais fy sianel YouTube fy hun ac es i i siopa am lyfrau. Yn fy fideo cyntaf, sef "Casgliad o lyfrau newydd" dangosais y llyfrau i'r camera gan esbonio pam fy mod i wedi’u prynu, a pha mor benderfynol oeddwn i’w darllen. Es i ymlaen i greu dwsinau o fideos eraill am bob agwedd ar ddarllen, a tair blynedd yn ddiweddarach dwi bellach yn rhan o’r gymuned ’BookTube’ - mae fy sianel yn fach, ond dwi’n cysylltu â channoedd o ddilynwyr a dwsinau o sianeli eraill. Mae'n gyffrous, yn gysurus, ac yn un o'r pethau gorau dw i erioed wedi ei wneud.
Yn fuan ar ôl dechrau fy sianel, dechreuais fynd â fy mab i'r llyfrgell leol. Roeddem wedi bod i'r sesiynau Amser Rhigwm nifer o weithiau, ond nawr roeddem am ddewis llyfrau. Roeddwn i'n llawn egni oherwydd y gymuned BookTube, a oedd yn mwynhau fy fideos "casgliad o lyfrau’r llyfrgell" cymaint â’r rhai lle’r oeddwn i’n prynu llwyth o lyfrau fy hun. Roedd llyfrgellwyr ar gael yn y llyfrgell hefyd, a oedd yn barod i argymell llyfrau i fi eu darllen. Wrth i mi bori drwy’r silffoedd gyda fy sianel yng nghefn fy meddwl a llaw fy mab yn fy llaw i, gwelais nifer o lyfrau a fyddai'n cyffrous i’w trafod a’u dangos i bobl, hyd yn oed os nad oeddwn i’n cael cyfle i'w darllen.
Gyda fy mhlentyn bach sy'n dwlu ar lyfrau yn fy nilyn, aethom ni i’r ardal roeddwn i'n ei hosgoi cyn i fi ddod yn rhiant - yr adran blant. Dim ond fy atgofion fy hun o lyfrgelloedd oedd gen i er mwyn ceisio dyfalu beth fyddai ar gael yn y llyfrgell i fy mab. Ces i fy synnu gan natur liwgar a phrysur llyfrgell fodern i blant. A oedd fframiau dringo a thwneli ar gael mewn llyfrgelloedd pan oeddwn i'n fach? Na, dwi ddim yn credu! Roedd fy mab wrth ei fodd ac yn gyffrous iawn i allu dewis unrhyw beth yr oedd am ei ddarllen. Ar ôl chwarae gyda'r holl bethau rhyngweithiol a oedd ar gael, byddem yn gadael gyda phentwr o lyfrau ac yn dechrau eu darllen yng nghefn y car – roeddem yn rhy gyffrous i aros nes ein bod ni'n cyrraedd adref!
Ymhen wythnos yn unig, roeddem wedi newid ein ffordd o ddarllen diolch i'r llyfrgell. Lle bynnag rydych chi, nid oes angen i chi aros i gael eich talu neu am ddiwrnod i ffwrdd o'r gwaith neu am y penwythnos, mae’n debygol iawn y bydd llyfrgell leol ar agor lle gallwch ddarllen ar yr amser cywir, yn y lle cywir ac am y pris cywir (AM DDIM!).
O’r blaen, doeddwn i ddim yn darllen unrhyw lyfrau o gwbl ac roeddwn i’n teimlo fel fy mod i ar goll heb eu hysgogiad a'u cysur, ond erbyn hyn dwi’n darllen tua 60 y flwyddyn ar gyfartaledd. Nid y niferoedd sy’n bwysig erbyn hyn, nawr fy mod i'n gwybod y gallaf fyw mewn byd o lyfrau unwaith eto. Y weithred o ddarllen sy’n bwysig - yr awydd i ddysgu rhywbeth newydd a'r pleser o ddeall profiad person arall. Dwi'n dwlu ar sut mae llyfrau’n teimlo, a'u harogl! Dwi'n dwlu ar siarad am y llyfr ar ôl ei ddarllen, gyda phobl sydd wedi'i ddarllen hefyd ac wedi dwlu arno gymaint â fi. Rhwng trefnu cinio, cyd-ganu i rigymau a chwarae yn y parc, mae ychydig o amser lle gallwch ddarllen tudalen neu ddwy. A'r cyfan y mae angen i chi ei wneud yw codi'r llyfr.